Ewch i’r prif gynnwys

Treial canser ofarïaidd mwyaf byd

17 Rhagfyr 2015

Ovarian Cancer

Y dystiolaeth gyntaf sy'n awgrymu bod sgrinio ar gyfer canser yr ofari yn achub bywydau

Mae canlyniadau newydd o dreial mwyaf y byd ar gyfer sgrinio canser yr ofari yn awgrymu y gallai sgrinio ar sail prawf gwaed blynyddol helpu i leihau tua 20% ar nifer y menywod sy'n marw o'r clefyd. Arweinir y Goleg Prifysgol Llundain mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a chanolfannau eraill yn y DU.

Mae'r gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau) yn The Lancet, hefyd yn rhybuddio bod angen rhagor o ymchwil dilynol er mwyn pennu amcangyfrifon mwy pendant ar gyfer nifer y marwolaethau yn sgîl canser yr ofari y gellir eu hatal drwy sgrinio.  Mae amcangyfrifon o'r canlyniadau hyd yma yn addawol, ond mae'r ymchwilwyr yn ansicr o'r union ffigurau o hyd.

Mae Treial Cydweithredol y DU ar gyfer Sgrinio Canser yr Ofari (UKCTOCS) yn dreial rhyngwladol ar gyfer sgrinio canser yr ofari, o dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Canser y DU, yr Adran Iechyd a The Eve Appeal.

Yn ystod yr astudiaeth 14 blwyddyn a oedd yn cynnwys dros 200,000 o fenywod rhwng 50 a 74 oed, y mae eu mislif wedi dod i ben, cafodd 1,282 ohonynt ddiagnosis canser yr ofari. Roedd 649 wedi marw o'r clefyd erbyn diwedd y treial ym mis Rhagfyr 2014.

Dangosodd yr astudiaeth bod oedi yn y marwolaethau rhwng elfennau sgrinio a rheoli'r treial, a ddaeth yn arwyddocaol ar ôl saith mlynedd gyntaf y treial. Mae'r tîm ymchwil bellach yn cynnal gwaith ymchwil dilynol i'r astudiaeth am dair blynedd arall, er mwyn gweld beth yw effaith lawn sgrinio ar gyfer canser yr ofari.

Roedd y canlyniadau cynnar yn awgrymu y gellid atal oddeutu 15 o farwolaethau a achosir gan ganser yr ofari ar gyfer pob 10,000 o fenywod sy'n rhan o raglen sgrinio. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys profion gwaed blynyddol am 7 - 11 mlynedd.

Roedd y treial hefyd yn cadarnhau canfyddiadau blaenorol; am bob tair menyw a gafodd driniaeth o ganlyniad i brawf sgrin annormal, roedd canser yr ofari gan un o'r tair menyw hyn, ar gyfartaledd. Roedd oddeutu tri y cant o'r rheini a gafodd driniaeth wedi dioddef cymhlethdodau difrifol, sef y gyfradd cymhlethdodau arferol ar gyfer y math hwn o driniaeth yn y GIG.

Dywedodd yr Athro Nazar Amso o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y treial yng Nghaerdydd: "Bu'n fraint i Gaerdydd fod yn rhan o'r treial mwyaf erioed ar gyfer canser yr ofari. Mae canlyniadau UKCTOCS yn awgrymu y gall sgrinio arwain at ganfod canser yn gynnar, ac arbed bywydau. Yn amlwg, byddai ymchwil dilynol yn y tymor hwy yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r manteision, ac yn rhoi rhagor o obaith i filiynau o fenywod sydd mewn perygl o gael canser yr ofari. Mawr yw ein dyled i'r menywod a wirfoddolodd i gymryd rhan, ac i waith caled pawb ym mhob un o'r 13 canolfan."

Dywedodd yr Athro Usha Menon, Iechyd Menywod yng Ngholeg Prifysgol Llundain, cyd-arweinydd y treial, sy'n cael arian ymchwil gan Abcodia Ltd.: "Mae UKCTOCS wedi bod yn ymdrech ymchwil aruthrol dros 14 mlynedd, gan gynnwys dros 200,000 o fenywod a 700,000 o brofion sgrinio blynyddol. O'r diwedd, mae gennym ddata sy'n awgrymu y gall sgrinio atal marwolaethau yn sgîl canser yr ofari. Mae hyn yn newyddion arbennig, sy'n rhoi hwb newydd i ymdrechion yn y maes hwn."

Dywedodd Dr Fiona Reddington, pennaeth ymchwil i'r boblogaeth, Ymchwil Canser y DU: "Mae'r treial hwn wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth wella ein dealltwriaeth o ganser yr ofari. Mae ei ganfod yn gynnar yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu manteisio ar y driniaeth orau, ac y gall mwy o fenywod oroesi'r clefyd. Nid yw'n sicr a all sgrinio leihau marwolaethau canser yr ofari yn gyffredinol ai peidio. Er bod hyn yn gam pwysig ym maes ymchwil i ganser yr ofari, ni fyddem yn argymell rhaglen sgrinio genedlaethol ar hyn o bryd."

Rhannu’r stori hon