Ewch i’r prif gynnwys

Cadeirydd newydd Cyngor Prifysgol

16 Rhagfyr 2015

Professor Stuart Palmer
Professor Stuart Palmer

Yr Athro Stuart Palmer i gael ei benodi'n Gadeirydd Cyngor y Brifysgol  

Mae Prifysgol Caerdydd am benodi'r Athro Stuart Palmer, FREng i olynu John Jeans, CBE fel Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.   Bydd yr Athro Palmer yn dechrau ei rôl newydd ym mis Ionawr 2016.

Mae'r Athro Palmer yn aelod o Gyngor y Brifysgol ar hyn o bryd ac roedd yn arfer bod yn Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Warwick.  Yn ogystal â'i gyflawniadau a'i ragoriaethau lu yn y byd academaidd, mae'n aelod o Grŵp Strategaeth Cynaliadwyedd Ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE).

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd bod Stuart wedi cytuno i ymgymryd â'r rôl hanfodol hon yn y Brifysgol.  Bydd ei wybodaeth a'i brofiad o addysg uwch yn amhrisiadwy ar yr adeg dyngedfennol hon wrth i ni gryfhau ein cyfeiriad strategol.

"Hoffwn ddiolch i John Jeans am ei gyfraniad rhagorol yn ystod cyfnod o gynnydd a newid aruthrol ym Mhrifysgol Caerdydd."

Mae'r Athro Palmer, fydd yn y swydd am dair blynedd, eisoes yn gyfarwydd â Phrifysgol Caerdydd ers ei benodi i'r Cyngor yn 2013.

Y Cyngor yw prif gorff llywodraethu'r Brifysgol. Mae'n gyfrifol am reoli a chynnal busnes y Brifysgol yn effeithlon, gan gynnwys ei harian a'i heiddo.

Dywedodd yr Athro Palmer: "Mae bod yn aelod o'r Cyngor wedi bod yn anrhydedd i mi, a braint o'r mwyaf yw ymgymryd â rôl Cadeirydd y Cyngor. 

Edrychaf ymlaen at gydweithio er mwyn ymestyn ein huchelgais i sefydlu Caerdydd ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd."

Rhannu’r stori hon