Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â 'gostyngiad difrifol' yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru

3 Rhagfyr 2015

Students stood around globe

Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi cynllun mawr o bwys

"Mewn byd lle mae unieithrwydd yn eithriad, mae ein pobl ifanc dan anfantais gynyddol" - pedair Prifysgol yng Nghymru yn cyhoeddi rhaglen i fynd i'r afael â 'gostyngiad difrifol' yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ITM

Heddiw, bydd pedair prifysgol yng Nghymru'n cyhoeddi cynllun newydd sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r 'gostyngiad difrifol' yn nifer y disgyblion ysgol yng Nghymru sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.

Cynllun peilot ydoedd i ddechrau, ond mae'r ymyriad pwysig am geisio cynyddu nifer y disgyblion ysgol uwchradd ledled y wlad sy'n dewis ac yn llwyddo i astudio ieithoedd modern.  Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth Dyfodol Byd-eang, sy'n cefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru.

O dan y cynllun newydd, bydd israddedigion ieithoedd tramor modern (ITM) ym Mhrifysgol Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi fel mentoriaid a hyfforddwyr, a byddant yn gweithio mewn partneriaeth â disgyblion ysgol yn eu hardaloedd nhw.

Bydd pob myfyriwr israddedig yn mynd drwy broses asesu drwyadl, yn ogystal â chael hyfforddiant gan arbenigwyr ym maes mentora myfyrwyr. Byddant yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ymrwymedig yn yr ardaloedd o amgylch eu prifysgolion, mewn cydweithrediad agos â chonsortia addysgol rhanbarthol.

Bydd pob ysgol bartner yn cael myfyrwyr i fentora disgyblion a dosbarthiadau Cyfnod Allweddol 3. Bydd y mentoriaid yn cynnal sesiynau mentora a hyfforddi wythnosol ar gyfer eu disgyblion, mewn sesiynau grŵp ac un i un, drwy gydol y semester academaidd nesaf.

Mae'r cynllun newydd yn adeiladu ar waith presennol a wneir rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, lle mae prifysgolion yn cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.

Dewiswyd y dull mentora newydd oherwydd 'effaith drawiadol' cynllun Myfyrwyr sy'n Llysgenhadon Iaith, a welodd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau gyrfaoedd gyda disgyblion mewn ysgolion haf. Yn ystod haf 2013, roedd gan ysgolion a fu'n cynnal y trafodaethau 17.5% yn fwy o ddisgyblion yn astudio ITM ar lefel TGAU nag ysgolion eraill.

Yn ogystal â chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ITM Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd, bydd y cynllun yn cynnig profiadau a chyfleoedd cyflogadwyedd i israddedigion ITM.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd y prosiect: "Er bod Cymru'n genedl ddwyieithog, mae nifer y disgyblion ysgol sy'n dewis astudio o leiaf un iaith fodern ar lefel TGAU wedi gostwng o 55% ym 1995 i tua 22% yn 2013. Rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yn llesteirio cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a gyrfaol i bobl ifanc o Gymru.

"Nid yng Nghymru'n unig y mae hyn yn  broblem, ychwaith; mae gostyngiad tebyg i'w weld yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan Lloegr a'r Alban eu dulliau polisi eu hunain o wneud cynnydd. Er bod ieithoedd modern yn wynebu dyfodol ansicr yng Nghymru, mae mentrau partneriaeth, fel y fenter mentora myfyrwyr hon, yn mynd i'r afael â'r broblem hon, ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu sy'n fwy symudol yn rhyngwladol er mwyn sicrhau twf economaidd yng Nghymru."

Rhannu’r stori hon