Ewch i’r prif gynnwys

Hwb o £4.6m i ymchwil biofeddygol

1 Rhagfyr 2015

GW4 with white space

Cynghrair GW4 yn cael arian ar gyfer partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd

Bydd dyfodol ymchwil biofeddygol yn y DU yn cael hwb hanfodol yn sgîl rhaglen hyfforddiant PhD cydweithredol newydd gwerth £4.6m.

Bydd y wobr newydd, sydd wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) yn bennaf, yn ariannu dros 50 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig dros y tair blynedd nesaf.

Mae G4W yn dod â Phrifysgolion Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg ynghyd. Mae'n annog ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws cronfa eang o academyddion i geisio mynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf cymdeithas. 

Bydd rhaglen newydd, Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4, yn hyfforddi ôl-raddedigion ymchwil mewn tri phrif faes: niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl; heintiau, imiwnedd a thrwsio; ac iechyd y boblogaeth.

Bydd pwyslais cryf hefyd ar fynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol mewn meysydd fel sgiliau rhyngddisgyblaethol a meintiol, a methodoleg in vivo. Bydd y garfan gyntaf yn dechrau eu hyfforddiant yn 2016.

Collaboration event students talking

Wrth siarad am y wobr, dywedodd yr Athro Colin Dayan, Cyfarwyddwr Academaidd y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol newydd:

"Mae'r rhaglen newydd yn unigryw yn y modd y mae'n galluogi myfyrwyr i fanteisio ar gryfderau ymchwil cyfunol, arbenigedd hyfforddiant ac adnoddau pedair prifysgol ymchwil-ddwys ragorol, ac mae'n rhoi pwyslais enfawr ar weithio'n rhyngddisgyblaethol.

"Drwy gydweithio, byddwn yn cynnig cyfleoedd ymchwil eithriadol i'n myfyrwyr, ac yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â rhai o'r heriau anoddaf ym maes ymchwil biofeddygol."

Dywedodd Guy Orpen, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Bryste a Chadeirydd Bwrdd GW4:

"Mae lansio Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4 yn ychwanegu at enw da GW4 am sut mae'n cydweithio i roi hyfforddiant doethurol o safon ac ar raddfa eang.

"Drwy gydweithio, gallwn gynnig cyfleoedd i'r don nesaf o ymchwilwyr na allwn eu cynnig ar ein pen ein hunain, gan ddenu'r bobl orau i'n prifysgolion.

"Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC BioMed GW4 yn enghraifft wych o fanteision cydweithio, a bydd yn datblygu myfyrwyr fydd yn llwyddo yn y byd academaidd a diwydiant."

Bydd cwricwlwm y rhaglen hyfforddiant yn cynnwys tair elfen: sgiliau ymchwil; datblygiad proffesiynol a gyrfaol; a chyfleoedd i ehangu gorwelion.

Caiff myfyrwyr eu hannog i ymgymryd â lleoliadau, ymweliadau ymchwil, interniaethau ymgysylltu cyhoeddus, yn ogystal â'r cyfle i ennill profiad clinigol.

Mae Cynghrair GW4 eisoes yn cynnal chwe phartneriaeth hyfforddiant doethurol. Gyda thros 8,000 o ymchwilwyr ôl-raddedig a throsiant blynyddol cyfunol o dros £1bn, mae'r gynghrair yn cynnig amgylchedd ymchwil enfawr ac o safon uchel.

Mae MRC wedi cyfrannu £3.3m i'r rhaglen newydd, ac mae sefydliadau o fewn GW4 wedi ymrwymo £1.3m yn ychwanegol.

Rhannu’r stori hon