Ewch i’r prif gynnwys

Carfan gyntaf Cymraeg i Bawb yn dathlu diwedd y cwrs cyntaf

30 Tachwedd 2015

Myfyrwyr o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Myfyrwyr o flaen Canolfan Mileniwm Cymru

Gyda diwedd tymor ar y gorwel mae’r garfan gyntaf i ddilyn cynllun iaith diweddaraf y Brifysgol, Cymraeg i Bawb, yn dathlu ei llwyddiannau ac yn ymfalchïo yn y cynnydd y maent wedi ei wneud mewn cyfnod byr.

Wedi lansio’r cynllun yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol dros yr Haf, dechreuodd y cwrs cyntaf i ddechreuwyr ym mis Hydref gyda 100 o fyfyrwyr wedi cofrestru. Yn ystod y tymor diwethaf mae’r garfan wedi dysgu ystod o batrymau a geirfa ddefnyddiol trwy gyfrwng sesiynau iaith rhyngweithiol yn y dosbarth a thrwy weithgareddau electronig.

Dywedodd Yann Nursimloo, myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith: “Mae'r cwrs wedi cael effaith gadarnhaol ar fy nealltwriaeth o'r iaith Gymraeg. Gallaf ddweud fy mod yn awr yn gallu siarad Cymraeg yn eithaf rhugl. Dwi'n rhyfeddu at fy nghynnydd - rydw i’n treiglo yn ddyddiol. Hefyd, dwi'n gallu ysgrifennu traethodau byr a gwrando ar BBC Cymru. Diolch yn fawr i dîm Cymraeg i Bawb ac i fy nhiwtor."

Ychwanegodd Susannah Larmont, myfyriwr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Dw i wedi mwynhau dysgu Cymraeg dros y misoedd diwethaf. Roeddwn i’n poeni braidd y byddwn yn anobeithiol ond mae'r cwrs wedi bod yn wych ac rwyf wedi dysgu llawer! Mae'r cynnwys yn dda iawn ac mae’r gemau a'r gwaith grŵp yn helpu'r broses ddysgu. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy y tymor nesaf.”

Mae’r tîm sy'n gweithio ar brosiect Cymraeg i Bawb, yn Ysgol y Gymraeg, yn prysur gynllunio ar gyfer tymor y Gwanwyn. Y tymor nesaf bydd mwy o fyfyrwyr yn dechrau lefel Dechreuwyr 1 a’r rhai sydd wedi cwblhau Dechreuwyr 1 yn symud ymlaen i Ddechreuwyr 2.  Hefyd, bydd sesiynau anffurfiol Siawns am Sgwrs yn cychwyn. Bydd y sesiynau hyn yn targedu lefelau uwch (rheiny gydag ychydig o Gymraeg) gyda’r bwriad o gynnig cyrsiau ffurfiol ar ragor o lefelau yn y dyfodol.

Yn ôl Dr Angharad Naylor, Rheolwr Prosiect Cymraeg i Bawb: “Mae wedi bod yn dymor prysur iawn ac mae gweld datblygiad a chynnydd y myfyrwyr wedi bod yn fraint fawr. Mae’r holl dîm yn edrych ymlaen at y tymor nesaf nawr, i groesawu carfan newydd o ddysgwyr a gweld y garfan gyntaf yn dychwelyd i barhau â'r dysgu.”

Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer cyrsiau tymor y Gwanwyn yn agor Rhagfyr 10 2015 ac yn cau Rhagfyr 22 2015. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â thîm Cymraeg i Bawb.