Ewch i’r prif gynnwys

Allai mathemateg wella'r broses o amserlennu llawdriniaethau yng Nghymru?

26 Tachwedd 2015

A and E trolley

Arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd i lunio amserlen 'glyfar' i geisio lleihau rhestrau aros a nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cael grant pwysig i ddatblygu modelau mathemategol fydd yn helpu i amserlennu gweithdrefnau llawfeddygol yng Nghymru.

Defnyddir y grant i ddatblygu adnodd cyfrifiadurol i greu amserlenni llawdriniaethau 'clyfar'. Ei nod yn y pen draw fydd lleihau rhestrau aros a nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo, a chynyddu boddhad cleifion.

Mae bron chwarter miliwn o bunnoedd wedi'i roi i'r prosiect tair blynedd, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y tîm ymchwil, amserlennu gwael a phrinder gwelyau ar ôl llawdriniaeth yw'r rhesymau dros ganslo cyfran fawr o lawdriniaethau yng Nghymru bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae pennu amserlen ar gyfer defnyddio Theatr yn cynnwys paratoi 'prif amserlen ar gyfer llawdriniaethau'. Caiff hon ei chreu gan staff bob wythnos ar sail y galw canfyddedig am bob arbenigedd yn yr ysbyty a hyd y rhestrau aros.

Nid yw'r Brif Amserlen yn ystyried y gofynion ar ôl pob llawdriniaeth ar gyfer pob arbenigedd, megis faint o welyau sydd ar gael, sy'n ystyriaeth hollbwysig i wneud yn siŵr nad oes mwy o gleifion na gwelyau.

Yn ôl prif ymchwilydd y prosiect, Dr Rhyd Lewis, o'r Ysgol Mathemateg: "Efallai y bydd galw am welyau ar gyfer rhai arbenigeddau ar adegau prysur ac anodd sawl gwaith yn ystod yr wythnos. Nid yw staff ysbytai'n cael gwybod am y galw yma tan ddiwrnod y llawdriniaeth, neu'r diwrnod cynt, a dyma un o'r prif resymau dros ganslo llawdriniaethau."

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan fyfyriwr PhD yn y Brifysgol eisoes wedi dangos y gallai rhagor o welyau fod ar gael ar ôl llawdriniaethau drwy gynllunio'n well a chael rhagor o adnoddau, gan olygu y gellir gostwng nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo.

Bydd y tîm yn adeiladu ar yr ymchwil ragarweiniol hon yn ogystal ag ymgorffori rhai o'u dulliau profedig eu hunain i greu system fwy cadarn.

Bydd hyn yn cynnwys dulliau ciwio ac amserlennu arloesol sydd eisoes wedi eu defnyddio mewn ysbyty.

"Gallai'r ymchwil hon gael effaith arwyddocaol a hwyrach y gellir ei chyflwyno ledled Cymru a thu hwnt. Bydd canslo llai o lawdriniaethau yn arbed arian, yn lleihau rhestrau aros, ac yn rhoi profiadau gwell i gleifion."

"Ar ben hynny, rydym yn hyderus na fydd unrhyw gost ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd wrth wneud hyn."

Rhannu’r stori hon