Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd yn gwneud galwad yng Nghynhadledd Hinsawdd Paris

26 Tachwedd 2015

Climate Change

Rhwydwaith o ysgolheigion blaenllaw yn cyhoeddi her hawliau dynol

Yr wythnos nesaf (30 Tachwedd), bydd ysgolhaig hawliau dynol o Brifysgol Caerdydd yn cefnogi galwad angerddol gan rwydwaith o ysgolheigion hawliau dynol, i lywodraethau ledled y byd gymryd camau hollbwysig i newid eu hymatebion i'r newid yn yr hinsawdd.

Daw'r alwad gan y Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Astudio Hawliau Dynol a'r Amgylchedd (GNHRE), y rhwydwaith mwyaf o ysgolheigion hawliau dynol ac amgylcheddol yn y byd, a sefydlwyd gan yr Athro Anna Grear o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd.

Mae'r rhwydwaith wedi ymrwymo i fynd i'r afael â heriau dynol ac amgylcheddol, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, ac mae'n cynnwys rhwydwaith o ysgolheigion amlddisgyblaethol o bedwar ban y byd.

Mae GNHRE newydd gyhoeddi Datganiad yng Nghynhadledd Hinsawdd Paris, sy'n amlinellu'r angen am yr hyn a elwir yn "newid hollbwysig" yn y ffordd y mae'r byd yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, o ganlyniad i'r "sefyllfa bresennol anghynaliadwy".

Mae'r Datganiad Drafft ar Hawliau Dynol a'r Newid yn yr Hinsawdd yn cyfuno syniadau newydd a'r gyfraith bresennol ar hawliau dynol rhyngwladol. Mae'r rhwydwaith yn dweud ei fod yn cyflwyno hawliau amgen i gefnogi hawliau dynol, gan amddiffyn hawliau personau nad ydynt yn ddynol a systemau byw rhag niwed yn sgîl yr hinsawdd ar yr un pryd. Mae'r Datganiad wedi denu cefnogaeth grŵp cynyddol o ysgolheigion ac eraill — fel Bianca Jagger a Mary Warnock, sydd wedi cefnogi'r testun drafft yn gyhoeddus.

Dywedodd Anna Grear, Athro yn y Gyfraith a Theori yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd, a sylfaenydd a chyfarwyddwr GNHRE: "Y trafodaethau ym Mharis yw'r cyfle olaf i'r ddynoliaeth fel rhywogaeth osgoi canlyniadau mwyaf dinistriol y newid yn yr hinsawdd. Mae'r Datganiad yn mynegi cred ysgolheigion ledled y byd, bod ein dull presennol o ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd yn gwbl annigonol yn wyneb y bygythiad dirfodol hwn. Gellir dadlau mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r broblem hawliau dynol fwyaf oll, ac rydym yn galw ar bob llywodraeth ym Mharis i sefyll fel arweinwyr, er mwyn osgoi trychineb — ac i wneud hynny drwy gwestiynu'r fframwaith presennol o flaenoriaethau a gaiff ei gymryd yn ganiataol.

"Mae'r Datganiad yn her ymarferol a chynnil sy'n procio'r meddwl, a gynlluniwyd i weddnewid y ddadl ynghylch yr hinsawdd. Mae'r Datganiad yn rhoi sylw i'r annhegwch strwythurol o ran pwy sy'n agored i newid yn yr hinsawdd, a'r angen i ymdrin â chyfyngiadau dulliau sy'n seiliedig ar y farchnad o fynd i'r afael â her yr hinsawdd."

Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr GNHRE, Louis Kotze, Athro Ymchwil ym Mhrifysgol North-West, De Affrica: "Nid yw'r farchnad yn mynd i ddatrys y newid yn yr hinsawdd. Mae pawb sy'n sefyll yn eu hunfan yn aros am fersiwn amgylcheddol o Steve Jobs yn twyllo'u hunain. I fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, bydd angen i bob llywodraeth weithredu'n gydlynol, gan dargedu a chynllunio gweithgarwch. Ni allwn lwyddo oni bai bod ein dull gweithredu'n esblygu."

Mae GNHRE wedi cyflwyno'r Datganiad cyn Paris COP21, gan obeithio y bydd yr ymyriad amserol ac angenrheidiol hwn yn cael yr ystyriaeth lawn y mae'n ei haeddu. Mae'r Datganiad ar agor i'w ddiwygio tan 19 Chwefror 2016. Bydd GNHRE yn parhau i fod yn weithgar wrth ymgyrchu dros gyfiawnder o ran yr hinsawdd, ac yn annog aelodau newydd i gymryd rhan drwy ebostio GrearA1@caerdydd.ac.uk.