Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd i godi pryderon ynghylch cyfraddau bwydo ar y fron

24 Tachwedd 2015

Mother breastfeeding baby

Heddiw (24 Tachwedd), bydd academydd o Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei gwaith ymchwil i grŵp trawsbleidiol o ASau a chyfoedion yn San Steffan, gan edrych ar fwydo ar y fron yn y DU.

Bydd Dr Kate Boyer, daearyddwr dynol y mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys daearyddiaeth rhyw a gofal sy'n ymwneud â bwydo ar y fron, gan gynnwys bwydo ar y fron yn gyhoeddus, yn rhannu ei gwaith ymchwil â'r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fwydo Babanod ac Anghydraddoldeb.

Bydd yn canolbwyntio ar fwydo ar y fron o safbwynt y DU, o'i gymharu â safbwynt rhyngwladol, ac yn pwysleisio'r ffaith bod cyfraddau bwydo ar y fron y DU ymhlith yr isaf yn y byd, er gwaethaf polisïau mamolaeth tebyg neu well na gwledydd gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd a Chanada.

Bydd Dr Boyer yn tynnu sylw at ffigurau diweddar sy'n dangos bod llai na 40% o fenywod y DU yn bwydo ar y fron hyd nes bydd y baban yn chwe mis oed, a llai nag 1% yn bwydo ar y fron yn unig yn y cyfnod hwn, er bod y rhan fwyaf o fenywod y DU yn rhoi cynnig ar fwydo ar y fron o leiaf unwaith.

Bydd yn dweud nad yw'r cyfraddau hyn yn bodloni argymhellion y GIG a Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n nodi mai dim ond llaeth o'r fron y dylai babanod ei gael yn y chwe mis cyntaf.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y llywodraeth yn cael gwared ar arian ar gyfer yr arolwg cenedlaethol ynghylch bwydo babanod – arolwg sy'n darparu gwaith ymchwil pwysig sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes bwydo babanod – a bod hyn yn arwydd bod bwydo ar y fron yn cael ei symud i lawr yr agenda iechyd cyhoeddus.

Bydd yn ystyried pam mae bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn cael ei wthio i'r cyrion yn y DU; gan adrodd am brofiadau uniongyrchol menywod a gymerodd ran yn ei gwaith ymchwil. Bydd hefyd yn ystyried sut mae materion sy'n ymwneud â daearyddiaeth a gofod yn effeithio ar ba mor dderbyniol yw bwydo ar y fron yn gyhoeddus.

Bydd grwpiau eiriolaeth ac arbenigwyr eraill yn ymuno â hi yn y cyfarfod hollbleidiol.

Wrth siarad cyn ei chyflwyniad, dywedodd Dr Boyer: "Nid yw'r cyfraddau presennol ar gyfer parhau i fwydo ar y fron yn y DU unman yn agos at nod Sefydliad Iechyd y Byd, ac nid ydynt wedi newid rhyw lawer dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fy ngwaith ymchwil i'r maes hwn yn dangos bod llawer o fenywod yn cael profiadau negyddol wrth fwydo ar y fron yn gyhoeddus, sy'n aml yn ffactor wrth iddynt benderfynu rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.

"Mae'r ymchwil yn dangos bod gallu menywod i fwydo ar y fron yn gyhoeddus yn bwysig o ran cynyddu cyfraddau parhau i fwydo, ond mae ei gwneud yn haws i fenywod fwydo ar y fron yn gyhoeddus yn ymwneud â newid diwylliannol yn y pen draw, ac mae llawer iawn o waith i'w wneud yn hyn o beth. 

"Gall y llywodraeth helpu i ysgogi newid o'r fath drwy ariannu rhaglenni sy'n herio'r normau cymdeithasol presennol, er enghraifft drwy helpu i fynd i'r afael â stigma. Mae heddiw'n gyfle pwysig i drafod y materion hyn gyda grwpiau eiriolaeth a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau."