Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs Newyddiaduraeth Gymunedol yn dychwelyd ym mis Chwefror

19 Tachwedd 2015

ipad and phone

Cwrs ar-lein rhad ac am ddim gan Brifysgol Caerdydd ar 'Newyddiaduraeth Gymunedol: y Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol' yn dychwelyd, gan ddechrau ar 8 Chwefror 2016

Mae'r cwrs, a gaiff ei ddarparu gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol a'i gynnal gan FutureLearn, ar agor i gofrestru arno.

Yr Athro Richard Sambrook, Dirprwy Bennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd a chyn-Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC, yw prif addysgwr y cwrs.

Meddai'r Athro Sambrook: "Rwyf wrth fy modd bod ein cwrs Newyddiaduraeth Gymunedol, sy'n rhad ac am ddim, yn dychwelyd y flwyddyn nesaf. Ers i ni lansio'r cwrs yn 2014 gyda FutureLearn, mae dros 23,000 o bobl wedi cofrestru o dros 118 o wledydd ledled y byd.

"Mae hyn wedi arwain at gyflawniadau anhygoel, wrth i lawer o ddysgwyr lansio gwefannau newyddion cymunedol llwyddiannus o ganlyniad i'r cwrs. Edrychaf ymlaen at groesawu'r garfan nesaf yn 2016."

Mae gwefannau newyddion cymunedol fel East Grinstead Online a Grimsby Spotlight wedi cael eu sefydlu o ganlyniad uniongyrchol i'r cwrs.

Yn ogystal, mae dysgwyr eraill wedi dweud bod y profiad wedi eu helpu i wella eu sgiliau cysylltiadau cyhoeddus, gwella'r agwedd at eu hysgolion lleol a chreu blog teithio.

Caiff y dysgwyr 30 pwynt DPP gyda CIPR UK hefyd ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Cynhelir 'Newyddiaduraeth Gymunedol: y Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol' am bum wythnos, ac mae'n trafod y pynciau canlynol:

  • Sgiliau newyddiaduraeth sylfaenol
  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio a hyrwyddo
  • Dilysu
  • Sefydlu gwefan
  • Dadansoddi
  • Modelau busnes cynaliadwy ar gyfer newyddion cymunedol
  • Cyfraith sylfaenol y cyfryngau

Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys siaradwyr arbenigol o sefydliadau gan gynnwys Ofcom, BBC, Nesta, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Trinity Mirror a J-Lab.

Cofrestrwch nawr, a defnyddio #FLCJ i ymuno â thrafodaethau gyda chyd-ddysgwyr, o dan arweiniad y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol. 

Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol, yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, yn rhan o'r prosiectau ymgysylltu Trawsnewid Cymunedau sy'n dangos ymrwymiad y Brifysgol i gymunedau Caerdydd, Cymru a thu hwnt.