Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o'r Ysgol Ieithoedd Modern yn llywio drama uchelgeisiol ar BBC Radio 4

19 Tachwedd 2015

 1950's radio set

Addasiad o waith Emile Zola ar gyfer y radio i'w ddarlledu

Mae uwch-ddarlithydd mewn Ffrangeg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd – Dr Kate Griffiths - wedi chwarae rhan allweddol fel ymgynghorydd academaidd ar addasiad radio arloesol o waith cyflawn yr awdur Ffrengig, Emile Zola.

Bydd y BBC yn darlledu tair cyfres o Emile Zola: Blood, Sex and Money, a bydd yn cynnwys cyn-seren y byd ffilmiau a'r AS Llafur, Glenda Jackson, yn ei rôl actio gyntaf ers ugain mlynedd. Y bwriad yw darlledu'r bennod agoriadol, 90 munud o hyd, ar BBC Radio 4 ar 21 Tachwedd.

Mae Dr Griffiths wedi bod yn gysylltiedig â'r prosiect ers pum mlynedd. Roedd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar y pryd a'i rôl oedd canolbwyntio ar wneud addasiad llenyddol neu ar gyfer ffilm. Wrth fynd ati i wneud y gwaith yma, sylweddolodd cyn lleied o ddefnydd sydd wedi'i wneud o archifau radio'r BBC, er ei bod yr addaswr mwyaf o lenyddiaeth yn y byd. O ganlyniad i hynny, dechreuodd ysgrifennu am y pwnc ac fe gysylltodd y BBC â hi pan gynigiwyd y syniad o wneud addasiad newydd o waith Zola.

Dywedodd Dr Griffiths: "Mae bod yn rhan o'r gwaith o'r cychwyn cyntaf, gweld y sgriptiau a bwydo i mewn i'r broses, wedi bod yn broses ddiddorol dros ben. Mae'r addasiadau, sydd wedi'u cynhyrchu mewn sawl ffordd, yn torri tir newydd ac yn cynnig rhywbeth newydd a chyffrous. Maent yn cael eu darlledu mewn sawl slot, yn ogystal â chymysgu ac uno nofelau, gan drin a thrafod themâu craidd Zola mewn ffordd gwbl newydd. O gofio bod Zola yn awdur a wnaeth addasu ac ail-lunio amrywiaeth o ffynonellau cynharach mewn ffyrdd newydd a chyffrous, mae addasiad y BBC dros gyfnod o flwyddyn, yn addas iawn."

"Rydw i wedi gwneud tipyn bach o bopeth ar y prosiect hwn, o awgrymu a chwilio am ganeuon gwladgarol cyfoes y gall milwyr yr Ymerawdwr eu bloeddio, i edrych ar sgriptiau a thrafod prif syniadau Zola gyda rhai awduron a chynhyrchwyr."

Mae'r gwaith y mae Dr Griffiths wedi'i wneud ar gyfer yr addasiad, yn rhan ganolog o'i hymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae hi'n arbenigo mewn addasu gwahanol gyfryngau; yn olrhain sut mae nofelau clasurol wedi'u hailddyfeisio mewn gwahanol wledydd, cyfryngau a chyfnodau ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol iawn. Ar ôl cwblhau llyfrau am addasiadau ar gyfer ffilm a theledu, radio yw'r cyfrwng y mae hi'n canolbwyntio arno bellach.

Ychwanegodd: "Mae wastad wedi bod cysylltiad rhwng radio a llenyddiaeth, ac mae wedi'i hail-lunio'r ers dyddiau cynharaf y cyfrwng. Mae fy ymchwil ddiweddaraf yn edrych ar berthynas agos radio'r BBC â llenyddiaeth. Rydw i'n canolbwyntio'n benodol ar sut mae addasiadau'r BBC yn adlewyrchu nid yn unig y testun gwreiddiol, ond hefyd y prif werthoedd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol ym Mhrydain ar yr adeg y cawsant eu cynhyrchu."

Cynhelir rhagolwg o'r addasiad o waith Zola ar 19 Tachwedd mewn digwyddiad gwrando yn y tywyllwch a drefnir gan Grŵp Llyfrau Caerdydd - y cyntaf yng nghyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus y Grŵp yn 2015/2016. Cewch ragor o wybodaeth am y digwyddiad, fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Dr Griffiths, yr awdur Dan Rebellato a'r cynhyrchydd Polly Thomas, ar wefan Grŵp Llyfrau Caerdydd a gynhelir gan yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.