Ewch i’r prif gynnwys

Mwyngloddio aur o garthion

18 Tachwedd 2015

Gold bars in a row

Astudiaeth gan y Brifysgol yn darganfod aur yn systemau carthffosydd Prydain

Mae ymchwil gan y Brifysgol wedi dod o hyd i lawer iawn o aur ledled carthffosydd y DU.

Mae tîm o dan arweiniad Dr Hazel Prichard, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, wedi bod yn gweithio gyda Thames Water i ddadansoddi'r solidau neu'r slwtsh sy'n weddill o weithfeydd trin dŵr gwastraff.

Mae'r ymchwilwyr yn tybio mai aur yw un o bob miliwn rhan o lwch carthion wedi'i losgi. Maent hefyd yn amcangyfrif y gallai fod mor uchel â saith o bob miliwn rhan, sy'n golygu y gallai fod yn waith aur a fyddai'n gynaliadwy'n economaidd.

Mae'r tîm yn amcangyfrif y gallai aur y DU fod werth £13.6 miliwn y flwyddyn.

Wrth siarad â phapur newydd The Times am y prosiect ymchwil, dywedodd Dr Prichard ei bod wedi'i "syfrdanu" gan faint o aur a welwyd yn y llosgyddion a ddefnyddir i losgi slwtsh. "Roedd llawer o aur i'w weld ym mhob rhan ohonynt," meddai.

Nid yw ffynhonnell yr aur yn hysbys ond mae wedi'i ganfod ar balmentydd ac o flaen ysgolion lle mae pobl yn cerdded wrth wisgo gemwaith. Caiff wedyn ei olchi i lawr draeniau ac i mewn o afonydd neu'r môr, neu i mewn i garthffosydd.  Gall tasg mor syml â golchi llestri rwbio darnau o aur o emwaith i ffwrdd a allai fynd i lawr y sinc ac i mewn i ddraeniau maes o law.

Mae'n ddyddiau cynnar i'r prosiect ymchwil ac mae Dr Prichard a'i thîm o'r Brifysgol erbyn hyn yn edrych ar ffyrdd o symud yr aur o'r slwtsh yn effeithlon ac ar raddfa fawr.

Cloddio a gwasgu creigiau yw dwy o'r prosesau mwyaf costus sy'n gysylltiedig â chloddio am aur. Felly, byddai cael gafael ar y metel gwerthfawr o lwch carthion wedi'i losgi yn ddull llawer rhatach ac yn llai niweidiol i'r amgylchedd.