Ewch i’r prif gynnwys

Hanes dwy ddinas

17 Tachwedd 2015

Dick Penny

Heddiw (17 Tachwedd), bydd cyfarwyddwr un o ganolfannau diwylliannol mwyaf llwyddiannus y DU yn rhannu ei arbenigedd am sut y gall Caerdydd ddatblygu ei heconomi greadigol a sut y gallai gydweithio â Bryste wella proffil y ddwy ddinas.

Mae'r Watershed ym Mryste yn cael ei hystyried fel canolfan flaenllaw ym maes creadigrwydd digidol, a bydd ei chyfarwyddwr, Dick Penny, yn annerch cynulleidfa mewn digwyddiad a gynhelir gan Gaerdydd Creadigol, sef rhwydwaith newydd Prifysgol Caerdydd.

Bydd yn rhannu ei arbenigedd am sut mae Bryste wedi ennill ei phlwyf fel un o ddinasoedd mwyaf arloesol y DU. Mae ganddi sector creadigol sy'n ffynnu, enw da am fanteisio ar gyfleoedd digidol, a phroffil rhyngwladol yn ddiwylliannol ac yn fasnachol.

Adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II ger mynedfa harbwr Bryste yw cartref Watershed, ac mae bellach yn ganolbwynt economaidd unigryw i ranbarth dinas Bryste o ran diwylliant a chreadigrwydd.

Mae ei rôl fel 'cysylltydd' ar gyfer gwahanol ddiwydiannau ledled y ddinas gyfan, a'i rhwydweithiau cryf sy'n amlwg mewn rhaglenni diwylliannol amrywiol, wedi atgyfnerthu ei statws fel canolfan flaenllaw ar gyfer arloesi a chydweithio.

Cyn ei anerchiad, dywedodd Dick Penny: "Mae gan Fryste a Chaerdydd sawl beth yn gyffredin, ond nid ydynt yr un fath. Mae hanes y ddau le yn wahanol, ac maent yn aml wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd. Fodd bynnag, mae fy mhrofiadau ym Mryste wedi dangos ein bod yn ddwy ddinas fach. Mae hyn yn wych o ran costau byw, ond nid yw cystal wrth geisio creu proffil yng nghysgod dinas mor enfawr â Llundain.

"Rai blynyddoedd yn ôl, gwrandewais ar gyflwyniad am ddinas-ranbarthau yn Ewrop - roedd Copenhagen-Malmo yn un enghraifft. Dwy ddinas mewn gwahanol wledydd, a phont yn cysylltu'r ddwy. Felly, yr her yw beth y gall Bryste a Caerdydd ei wneud gyda'i gilydd fydd yn cynnig manteision i'r ddwy ddinas?"

Dywedodd Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: "A ninnau newydd lansio rhwydwaith Caerdydd Creadigol, mae'n amser addas i groesawu Dick i Gaerdydd i edrych ar dirwedd greadigol Bryste a sut y gallwn ddysgu o'r profiad ym Mryste.

"Bydd y gynulleidfa'n cynnwys crewyr, gweithwyr llawrydd, arloeswyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn ystod o ddiwydiannau, gan gynnwys y celfyddydau a thechnoleg. Bydd y rhain yn awyddus i'w holi beth ddylai Caerdydd ei wneud i ennill ei phlwyf fel canolfan greadigol sy'n ffynnu, a sut gallwn gydweithio'n agored ac efelychu Bryste fel canolfan greadigol unigryw."