Ewch i’r prif gynnwys

Cam pwysig ymlaen i Fargen Ddinesig

12 Tachwedd 2015

City Region landcape

Is-Ganghellor yn croesawu cyflwyniad gan arweinwyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth y DU

Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, wedi rhoi croeso cynnes i gam pwysig ymlaen yn yr ymdrechion i sicrhau Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae arweinwyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys arweinwyr y 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru, wedi cyflwyno amlinelliad o'u cynigion ar gyfer Bargen Ddinesig i Lywodraeth y DU, cyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

Rhoddwyd hwb i'r cyflwyniad wrth i Lywodraeth Cymru gytuno i gyfrannu £580m at gynnig am Fargen Ddinesig werth hyd at £1.28bn.

Dywedodd yr Athro Riordan: "Mae Prifysgol Caerdydd o ddifrif ynghylch ei rôl fel gyrrwr ffyniant economaidd a chymdeithasol, felly croesawaf y cais hwn yn llawn. Mae ganddo'r potensial i weddnewid de-ddwyrain Cymru.

"Er mai gwell cysylltedd yw'r brif flaenoriaeth, rhaid i ni hefyd weithio gyda'n gilydd i annog yr arloesedd a'r datblygiad economaidd sy'n ofynnol er mwyn i'n rhanbarth ffynnu.

"Mae'r Brifysgol am chwarae rôl o bwys wrth greu hinsawdd o'r fath, er enghraifft drwy ein campws arloesedd werth £300m sy'n ceisio cysylltu'r maes diwydiant, busnesau a'r llywodraeth gyda'n hacademyddion, a'n prosiect ymgysylltu Cyfnewidfa Dinas-Ranbarth a fydd yn darparu cyngor, hyfforddiant a gwasanaethau eraill ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd."

Bydd y Fargen Ddinesig yn golygu gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat. 

Byddai'r £580m yn cefnogi sefydlu Cronfa Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd â'r nod o gyflawni prosiectau cysylltedd trafnidiaeth strategol pwysig.

Bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i arweinwyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyflawni Bargen Ddinesig ar raddfa a fyddai'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i economi de-ddwyrain Cymru.

Mae'r arweinwyr yn credu bod Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle unigryw i weddnewid yr economi leol; i wella cynhyrchiant lleol, creu swyddi newydd a gostwng cyfraddau diweithdra. 

Ar y cyfan, bydd y fargen yn ceisio cefnogi buddsoddiad mewn meysydd gan gynnwys busnes ac adfywio, arloesedd, digidol a sgiliau, gyda buddsoddiad mewn seilwaith ledled de Cymru a fydd yn gwella'r cyfleoedd i bob cymuned yn y rhanbarth.

Rhannu’r stori hon