Heriau addysgol i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru

11 Tachwedd 2015

Child Research

Astudiaeth yn amlygu'r ffaith mai dim ond 8% o'r plant sy'n derbyn gofal sy'n parhau i brifysgol

Ceir galwadau heddiw am gamau pendant gan lunwyr polisïau i gau'r 'bwlch amlwg' rhwng cyrhaeddiad addysgol y plant sy'n derbyn gofal o'i gymharu â phlant eraill.

Mae adroddiad newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at y gwahaniaeth enfawr rhwng cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal o'i gymharu â'u cyfoedion, ac yn galw am gamau i gau'r bwlch hwn.

Yn ôl yr adroddiad gan dîm yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), dim ond 8% o'r rhai sy'n gadael gofal sydd mewn addysg amser llawn pan maent yn 19 oed, o'i gymharu â 43% o'r holl bobl ifanc. Ar ben hynny, dim ond 2.4% ohonynt sy'n mynd i brifysgol*.

Mae'r adroddiad, a edrychodd ar grwpiau ffocws oedd yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal, yn amlygu anawsterau ar bob cam yn nhaith addysgol yr unigolyn ifanc, gan gynnwys y rhai sy'n deillio o stigma, lleoli ac ansefydlogrwydd mewn ysgolion.

Mae'r adroddiad yn galw am gamau i hwyluso cyfathrebu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol ac asiantaethau i achosi cyn lleied o aflonyddwch a straen â phosibl. mae hefyd yn galw am fwy o bwyslais ar roi cefnogaeth ychwanegol wedi i blant sy'n derbyn gofal symud ysgol.

Mae cynnal cyfarfodydd am amgylchiadau gofal y tu allan i oriau ysgol, i leihau aflonyddwch a sylw, ymhlith yr argymhellion yn ogystal â chynnig cynlluniau cyffredinol sydd ar gael i bob plentyn i geisio lleihau stigma.

Daeth cyrhaeddiad addysgol isel y gofalwyr i'r amlwg hefyd i'r ymchwilwyr, gan olygu nad oeddent yn gallu cefnogi dysgu'n ddigonol. Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn broblem o bwys sy'n effeithio ar agweddau plant sy'n derbyn gofal at addysg. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy gynnig cyfleoedd i ofalwyr maeth gael cymwysterau a hyfforddiant ychwanegol.

Awgrymodd yr ymchwil mai barn besimistaidd sydd gan weithwyr proffesiynol yn aml ynglŷn â photensial addysg plant sy'n derbyn gofal, a'u bod bron â bod yn disgwyl iddynt gael eu trin yn wahanol oherwydd eu hamgylchiadau.

Fel y dywedodd un o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwil: "Nid ydym am i bobl fod yn rhai 'sy'n derbyn gofal'. Dwi eisiau bod yn blentyn cyffredin fel pawb arall." Yn ôl un arall: "Fe wnaethon nhw wneud imi deimlo fel rhywun o'r tu allan am fy mod yn derbyn gofal. Gwnaeth hyn imi deimlo ar wahân, yn rhwystredig, yn unig ac yn agored i niwed".

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r canfyddiadau'n dangos bod angen i blant sy'n derbyn gofal allu gael gafael ar adnoddau addysgol, cefnogaeth wrth fynychu clybiau ar ôl ysgol, a chyfleoedd eraill i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau pwysig gyda chyfoedion. Maent hefyd yn argymell sefydlu 'hyrwyddwr gofal' annibynnol ym maes addysg h.y. llysgennad y tu allan i'r awdurdod lleol sy'n gallu dwyn asiantaethau i gyfrif.

Meddai prif awdur yr adroddiad, Dr Dawn Mannay o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: "Er gwaethaf llawer o gamau a pholisïau llawn bwriadau da gan Lywodraeth Cymru, dangosodd ein hymchwil fod Cymru yn parhau i gael trafferth newid patrymau negyddol cynhenid oherwydd y lefelau cyrhaeddiad addysgol isel ymhlith pobl ifanc yn y system ofal".

"Yn ôl y bobl ifanc y buom yn siarad â nhw, maen nhw'n wynebu rhwystrau eang ar bob cam yn eu taith addysgol. Mae hyn yn dechrau'n gynnar iawn oherwydd agwedd eu hathrawon a'u cyd-ddisgyblion tuag atynt oherwydd eu bod 'yn derbyn gofal'. Yn aml, mae hyn yn cael effaith negyddol sylweddol a pharhaus ar eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad dilynol".


Ychwanegodd Dr Eleanor Staples, Rheolwr Prosiect o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: "Yr hyn a welwn mewn gwirionedd yw plant y rhieni cyfoethocaf – y wladwriaeth - yn cyflawni'r canlyniadau addysgol gwaethaf. Er bod yr ymchwil yn cydnabod y pwysau aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus yn y maes hwn, mae angen diwygio polisïau, herio agweddau a cheisio cynnig cefnogaeth sy'n diwallu anghenion pob plentyn neu unigolyn ifanc."

Meddai Dr Sophie Hallett, Ymchwilydd y Prosiect:

"Dywedodd sawl un o'r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw eu bod yn teimlo'n 'lwcus' am fod ganddynt y pethau mwyaf sylfaenol - llyfrau, bag, ysgrifbinnau, papur, rhywun i'w helpu gyda'u gwaith cartref, rhywun i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gweld eu ffrindiau.

"Dyma'r hanfodion y byddai disgwyl i unrhyw riant allu eu rhoi i'w plentyn. Mae sefyllfa lle nad yw plant yn cael y rhain, neu'n teimlo'n 'lwcus' i'w cael, yn annerbyniol. Mae angen ymyrryd ar unwaith i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc sydd wedi cael trawma a'u gwahanu, yn cael eu cefnogi ym mhob un o'r ffyrdd bychain a hanfodol hyn".

Meddai Dr Emily Warren, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: "Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru ac mae'n dda gweld bod y Llywodraeth yn buddsoddi yn eu dyfodol. Fel pob plentyn arall, ni ddylai plant sy'n derbyn gofal oddef stigma ac agwedd negyddol. O ystyried i ba raddau yr ymgynghorwyd â phobl ifanc yn ystod yr ymchwil, credwn y gallai'r adroddiad hwn ddenu sylw gweithwyr proffesiynol ledled y wlad.

"Mae angen annog a chefnogi gofalwyr maeth ledled Cymru i gael yr hyder i fod yn addysgwyr cyntaf y plant sydd o dan eu gofal. Drwy eu cefnogi i wneud hyn, gallant gael effaith fydd yn aros gyda'r rhai o dan eu gofal drwy gydol eu bywydau.