Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr cyfathrebu ar gyfer ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa

9 Tachwedd 2015

Colin Riordan and Matthew Allen

Un o ymchwilwyr y Brifysgol yn ennill gwobr cyfathrebu am ysgogi'r cyhoedd i ymgysylltu ag astroffiseg

Mae ymchwilydd o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, sydd ar ddechrau ei yrfa, wedi cael ei gydnabod gan gwmni blaenllaw Elsevier am ei ddull creadigol a phersonol o gyfleu gwaith ymchwil astroffiseg i'r cyhoedd.

Enillodd Matthew Allen, myfyriwr PhD sy'n astudio esblygiad galaethau, Gwobr Cyfathrebu Dewis yr Ymchwilwyr mewn cinio gwobrwyo yn Llundain (5 Tachwedd). Roedd 70 o uwch-swyddogion y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant yn bresennol.

Cymeradwywyd Matthew am ei ddull creadigol a phersonol, llawn empathi, o gyfleu gwyddoniaeth mewn modd diddorol a chyffrous. Mae ei gyfres fideo wythnosol ar YouTube, a gaiff ei chyhoeddi o dan y ffugenw 'UKAstroNut', yn egluro ystod eang o bynciau gwyddonol ar lefel sylfaenol y gall unrhyw un ymgysylltu ag ef, ac mae'n denu miloedd o wylwyr yn rheolaidd.

Gellir gweld rhywfaint o'i waith yma.

Gan fod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd yn wynebu pwysau amrywiol wrth ddechrau ar yrfa yn y byd academaidd, mae'r wobr hon yn helpu i gydnabod pwysigrwydd hanfodol y sgiliau cyfathrebu sydd nid yn unig yn gwella datblygiad gyrfa, ond sydd hefyd yn bodloni'r ddyletswydd o ysgogi'r cyhoedd i ymgysylltu â gwyddoniaeth.

Wrth longyfarch enillwyr y wobr, dywedodd Ron Mobed, CEO Elsevier: "Mae buddsoddi mewn ymchwilwyr ifanc yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol darganfyddiadau gwyddonol. Nod y gwobrau hyn yw ysgogi a chefnogi ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd i gyflawni gwaith ymchwil arloesol.  Mae'n braf iawn dathlu eu llwyddiannau a, thrwy godi eu safle, eu helpu i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach o ran y gwaith gwych a wnânt ym maes gwyddoniaeth a'r gymdeithas."

Dywedodd Gareth Davies, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwybodaeth ac Arloesedd, Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau'r DU, a roddodd y brif araith yn y digwyddiad: "Dylai'r enillwyr i gyd fod yn hynod falch o'u cyflawniadau. Mae sylfaen ymchwil y DU yn un o lwyddiannau mwyaf ein gwlad, felly mae bod ar flaen y gad yn y maes hwn yn gamp â hanner. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol."

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Matthew: "Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd mawr. Mae'n wych gweld y gwaith allgymorth a wnaf innau, a llawer o ymchwilwyr eraill, ochr yn ochr â'n gwaith ymchwil arferol, yn cael ei gydnabod. Bydd y wobr yn fy nghymell i barhau i wneud gwaith allgymorth, a dechrau gyrfa ym maes cyfathrebu gwyddoniaeth ar ôl gorffen y PhD, gobeithio."

Enwebwyd Matthew ar gyfer y wobr gan y gymuned ymchwil, a bleidleisiodd drosto drwy sianelau rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol Mendeley. Yna, dewiswyd Matthew o blith rhestr fer o enwebeion, gan banel arbenigol o feirniaid.

Rhannu’r stori hon