Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr arloesedd fyd-eang am gatalydd aur

9 Tachwedd 2015

innovation award for gold catalyst

Sefydliad Catalysis Caerdydd yn ennill gwobr fyd-eang am arloesi catalydd newydd ecogyfeillgar i weithgynhyrchu finyl clorid

Mae Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE) wedi cydnabod ymchwilwyr y Brifysgol am ddatblygu catalydd aur newydd.

Enillodd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), ynghyd â chwmni cemegau blaenllaw Johnson Matthey, Wobr Cynnyrch Arloesol y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Byd-eang IChemE yn Birmingham neithiwr (5 Tachwedd).

Roedd y wobr yn cydnabod dyluniad ac elfen fasnachol catalydd aur newydd, di-lygredd ,ar gyfer gweithgynhyrchu finyl clorid, sef monomer pwysig a ddefnyddir wrth gynhyrchu plastig.

Mae ymchwil gan CCI yn dangos mai nanoronynnau aur yw'r catalyddion gorau yn yr adwaith a ddefnyddir i gynhyrchu finyl clorid, ac mae'n cynnig dewis amgen, llawer glanach a mwy cynaliadwy i'r catalydd masnachol, clorid mercwrig, a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Gweithgynhyrchir dros 20 miliwn tunnell o fonomer finyl clorid bob blwyddyn drwy ddefnyddio catalydd mercwrig clorid yn bennaf. Mae mercwri nid yn unig yn brin, cydnabyddir yn gyffredinol ei fod yn hynod niweidiol i iechyd pobl a'r amgylchedd hefyd.

Mae aur yn cynnig dewis amgen glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.

O ganlyniad i waith CCI, mae Johnson Matthey wedi adeiladu ffatri yn Shanghai i weithgynhyrchu llawer iawn o'r catalydd aur a ddefnyddir bellach wrth gynhyrchu monomer finyl clorid yn llawn.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd bod Sefydliad y Peirianwyr Cemegol wedi cydnabod ein gwaith yn datblygu'r catalydd newydd arloesol hwn.

"Mae cael ein cynnwys ymhlith rhestr o weithwyr proffesiynol uchel eu parch o feysydd academaidd a diwydiant, yn adlewyrchu gwaith caled pawb yn Sefydliad Catalysis Caerdydd.

"Gyda Johnson Matthey, rydym wedi datblygu a masnacheiddio catalydd fydd, yn ein barn ni, yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd, yr amgylchedd a lles cyffredinol.     

Mae Gwobrau IChemE yn dathlu rhagoriaeth, arloesedd a chyflawniad yn y diwydiannau cemegol a phrosesu.  Sefydlwyd y Gwobrau ym 1994 ac maent yn denu diddordeb ledled y byd.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Llywydd IChemE, Andrew Jamieson: "Mae IChemE yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol ac mae'r amrywiaeth eang o enillwyr heno o feysydd

Rhannu’r stori hon