Ewch i’r prif gynnwys

Pwyso a mesur: Rhaid i'r ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru atgyfnerthu ei llwyddiant

5 Tachwedd 2015

Business school logo

Adroddiad newydd yn amlygu'r ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Ysgol Busnes Caerdydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru. Mae hefyd yn amlygu bod angen cynrychioli ardaloedd a sectorau'n well er mwyn iddi fynd o nerth i nerth.

Cafodd yr adroddiad, a baratowyd gan yr Athro Edmund Heery, Dr Deborah Hann a Dr David Nash, ei ariannu gan yr Ysgol a'i gefnogi gan Citizens Cymru-Wales, sef cangen Citizens UK yng Nghymru. Fe'i rhyddhawyd i gyd-fynd ag Wythnos Cyflog Byw (2 - 6 Tachwedd 2015).

Daeth yr ymgyrch Cyflog Byw i Gymru yn 2012, ond mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae eisoes wedi cymryd camau breision.

Ar hyn o bryd, mae dros 50 o sefydliadau yng Nghymru sy'n cyflogi mwy na 15,000 o staff yn uniongyrchol, wedi cael eu hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw. Dyma 2.9% o gyfanswm nifer y cyflogwyr achrededig ledled y DU. Mae'r Cynulliad, Prifysgol Caerdydd, Bws Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymhlith y sefydliadau o bwys yng Nghymru sydd wedi'u hachredu.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru wedi:

  • mynd o nerth i nerth yn gyflym, gyda chwarter y cyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru wedi'u hachredu ers mis Mawrth 2015;
  • cyrraedd y rhan fwyaf o Gymru, gyda chyflogwyr achrededig mewn 17 o awdurdodau lleol;
  • cael cynrychiolaeth gref ar draws pob un o'r prif sectorau yn economi Cymru;
  • denu llawer iawn o gyflogwyr achrededig yn y sector preifat, sef y sector sydd wedi cynnig swyddi cyflog isel yn draddodiadol.

Mae lle i wella hefyd, ac mae'r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o weithgareddau mewn ardaloedd eraill yn y DU a allai rhoi rhagor o lwyddiant i'r ymgyrch Cyflog Byw.

Er bod yr adroddiad yn amlygu'r ffaith fod cyflogwyr Cyflog Byw achrededig mewn 17 o awdurdodau lleol, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y ceir y lefelau uchaf ohonynt. Yn yr un modd, er bod cyrff cyhoeddus o bwys fel y Cynulliad wedi'u hachredu, prin yw'r niferoedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar y cyfan. Prin iawn yw nifer y cyflogwyr Cyflog Byw yn y diwydiannau cyflog isel. Nid oes unrhyw gynrychiolaeth ym myd amaeth na'r sectorau lletygarwch yng Nghymru, ac ychydig iawn ohonynt a geir yn y sectorau manwerthu a gofal.

Mae Cymru yn dilyn patrwm sydd wedi ennill ei blwyf yn y DU lle ceir niferoedd uchel mewn canolfannau trefol ac economaidd yn ogystal â gwell cynrychiolaeth mewn sectorau sydd fel arfer yn talu'n dda. Mae'r adroddiad yn dadlau y dylai'r ymgyrch yng Nghymru ystyried y gwersi sydd wedi'u dysgu y tu hwnt i Glawdd Offa. Y tu allan i Gymru, mae gan wasanaethau proffesiynol fel cwmnïau cyfreithiol, tai meddalwedd, cyfrifwyr ac asiantaethau hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus, nifer sylweddol o gyflogwyr Cyflog Byw. Mae'r adroddiad yn argymell yn gryf y dylid rhoi cryn sylw i'r maes hwn yn ogystal â denu cyflogwyr o bob ardal ledled y wlad.

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd yr Athro Edmund Heery: "Mewn cyfnod byr, mae sefydliadau pwysig wedi'u hachredu gan yr ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru ac mae bellach yn rhan o drafodaethau gwleidyddol a chymdeithasol. Mae'r adroddiad hwn, a ryddhawyd yn ystod Wythnos Cyflog Byw, yn sôn am gynnydd yr ymgyrch ac rwy'n gobeithio y bydd yn feincnod y gallwn gymharu rhagor o lwyddiannau yn ei erbyn.

"Am y tro, dylem ddathlu'r ffaith fod gennym gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ledled Cymru ac mewn sawl sector. Wrth edrych i'r dyfodol, dylai'r ymgyrch ymrwymo i ymledu cyflogwyr Cyflog Byw ledled Cymru yn ogystal â denu rhagor o gyrff cyhoeddus. Gall manteisio ar gefnogaeth y sector preifat drwy gynyddu cynrychiolaeth gwasanaethau proffesiynol, hefyd fod yn gam arwyddocaol gan ei fod eisoes wedi bod llwyddiannus iawn y tu allan i Gymru."

Rhannu’r stori hon