Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Phoenix yn gwneud 'byd o wahaniaeth' yn Namibia

5 Tachwedd 2015

Namibia midwives
Midwives Sarah Davies and Grace Thomas (Cardiff University) and Dr Cristina Diaz-Navarro (Cardiff and Vale University Health Board) with University of Namibia counterparts

Arbenigwyr o Gymru yn helpu i weddnewid arferion meddygol yn ne Affrica

Mae uwch-feddygon, rheolwyr ysbytai ac academyddion yn Namibia yn dweud y bydd prosiect gan Brifysgol Caerdydd yn achub bywydau ac yn arwain at fanteision enfawr ar gyfer y boblogaeth, ledled y wlad a thu hwnt.

Mae Prosiect Phoenix yn gweld arbenigwyr o Gymru'n cydweithio â Phrifysgol Namibia (UNAM) i ddarparu hyfforddiant anaesthesia arbenigol yn y wlad, am y tro cyntaf erioed.

Dim ond llond llaw o anaesthetegyddion arbenigol sydd yn Namibia, felly mae llawfeddygaeth a gofal critigol yn aml yn dibynnu ar swyddogion meddygol sydd heb dderbyn llawer o hyfforddiant anaesthesia.

Mae chwe anaesthetegydd o dde Cymru, dan arweiniad yr Athro Judith Hall o'r Ysgol Meddygaeth, wedi bod yn rhoi hyfforddiant sgiliau anaesthesia a gofal critigol i fyfyrwyr a meddygon yn ardal ddiffaith Oshakati yng ngogledd y wlad, ger y ffin ag Angola.

Mae'r hyfforddiant yn rhan o Brosiect Phoenix y Brifysgol. Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn wedi uno â Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Namibia (UNAM) ar gyfer llu o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Namibia training with dummies
Judith Hall at Hospital in Namibia

Maent yn cynnwys mireinio sgiliau mathemateg gwyddonwyr, rhoi hwb i arferion addysgu a chefnogi prosesau datblygu meddalwedd.

Dywedodd Dr Josphina Augustinus, sy'n rhedeg ysbyty Oshakati yn y gogledd, bod y prosiect yn "ystyrlon" ac yn "gwneud byd o wahaniaeth" yn Namibia, a hoffai i'r prosiect barhau ac ehangu.

Ar hyn o bryd, mae llawdriniaethau cleifion yn cael eu canslo'n aml oherwydd diffyg anaesthetegyddion.

"Bydd hyn yn cael effaith fawr ar y sefydliad ei hun, Intermediate Hospital Oshakati, ac ar y gymuned hefyd, oherwydd bydd pobl yn achub bywydau am eu bod yn gyfarwydd ag anaesthesia, ac wedi cael hyfforddiant da," meddai Dr Augustinus.

"Pan fydd cleifion yn cael llawdriniaeth mewn theatr, byddant mewn dwylo da oherwydd byddant yn nwylo gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant anaesthesia."

Y nod yw i'r rheini sy'n dysgu am anaesthesia drosglwyddo eu sgiliau newydd i gydweithwyr hefyd.

Namibian mothers

Dywedodd Dr Daylight Manyere, Prif Swyddog Meddygol yn Rehoboth, i'r de o'r brifddinas Windhoek: "Bydd yn gwneud byd o wahaniaeth. Bydd yn rhyddhad mawr i ni. 

"Pan nad dyna eich maes arbenigedd, mae'n bosibl i chi ddod ar draws pethau nad ydych yn gyfforddus iawn â nhw, felly bydd cael anaesthetegydd preswyl yn rhoi ei wybodaeth i Swyddogion Meddygol - o ran gofal critigol lle mae ei angen - yn gwneud gwahaniaeth go iawn."

Cynhaliwyd cyrsiau dwys yn Windhoek, Rundu ac Oshakati, a bydd cwrs Meistr mewn anaesthesia i ddilyn, fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf.

Cynhelir y prosiect ar y cyd ag UNAM. Mae uwch-staff UNAM yn credu y bydd yn arwain at fanteision ledled de Affrica yn y pendraw.

Dywedodd yr Athro Kenneth Matengu, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Rhyngwladol UNAM: "Drwy'r ymyriad hwn, pan fydd ein system yn gyflawn, gobeithio y gallwn wasanaethu gwledydd eraill cyfagos fel Angola, Botswana a Zambia."

Namibian mothers
Nambia practical training

Mae cynlluniau hefyd i ddefnyddio arbenigedd y Brifysgol i roi hyfforddiant mwy cynhwysfawr i fydwragedd.

Mae Grace Thomas, Pennaeth Proffesiynol Bydwreigiaeth y Brifysgol a'r Brif Fydwraig ar gyfer Addysg, wedi bod yn ymweld â Namibia gyda'i chydweithiwr, Sarah Davies, i weld beth yw anghenion hyfforddi'r bydwragedd.

Roedd gweithgareddau eraill ar y daith yn gweld Matt Smith o Brifysgol Caerdydd yn cefnogi e-ddysgu yn UNAM, wrth i'r Athro Gordon Cumming o'r Ysgol Ieithoedd Modern roi darlith Panopto gyntaf UNAM gan ddefnyddio'r feddalwedd cofnodi darlithoedd.

Mae Prosiect Phoenix yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol mewn meysydd fel Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dynol.

Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol: menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Rhannu’r stori hon