Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru

29 Hydref 2015

sec of stat 1

Stephen Crabb AS yn rhoi araith yn Ysgol Busnes Caerdydd

Daeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS, i ymweld â Phrifysgol Caerdydd heddiw i roi araith ynglŷn â'i weledigaeth ar gyfer datganoli ac economi Cymru.  Wrth siarad yn Ysgol Busnes Caerdydd, amlinellodd sut gellir manteisio ar raglen datganoli Llywodraeth y DU fel cyfle i ddatblygu arloesedd a thwf yng Nghymru.

Yn benodol, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Gwladol bod angen i Gymru gystadlu gydag economïau sy'n tyfu'n gyflym, dramor ac yn rhannau eraill o'r DU.   Dywedodd wrth y gynulleidfa o arweinwyr busnes, llunwyr polisïau ac academyddion, bod angen i Gymru symud y tu hwnt i ddadleuon ynglŷn â'r cyfansoddiad, a chanolbwyntio ar yr heriau y mae economi fyd-eang yn eu creu.  Ychwanegodd Mr Crabb hefyd fod dinas Caerdydd yn arloesol ac yn entrepreneuraidd, a bod ganddi botensial i hybu arloesedd a chreu cyfoeth a fyddai o fudd i Gymru gyfan.    

Yn dilyn ei araith yn yr Ysgol Busnes, tywyswyd yr Ysgrifennydd Gwladol ar daith o amgylch Adeilad Hadyn Ellis, lle bu'n cyfarfod ag academyddion sydd ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol Caerdydd.

Yn ystod y daith, gwelodd Mr Crabb sut mae'r Sefydliad i'r Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl yn gweithio i wella'r ddealltwriaeth a'r driniaeth ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl difrifol, fel dementia, gan ddwyn ynghyd cryfderau'r Brifysgol ym meysydd seiciatreg, niwrowyddoniaeth a seicoleg.

sec of state briefing 2

Yn ogystal, aeth i ymweld â'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, a sefydlwyd i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf dybryd sy'n ymwneud â thriniaethau canser.

Daeth taith yr Ysgrifennydd Gwladol i ben wrth gyfarfod â chynrychiolwyr o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Esboniwyd iddo sut bydd cyfleuster delweddu modern newydd y Brifysgol, sydd werth £44M, yn atgyfnerthu safle Caerdydd fel canolfan Ewropeaidd ar gyfer niwroddelweddu.  Bydd y Ganolfan yn galluogi'r Brifysgol i ddatblygu ei gwaith ymchwil blaenllaw i niwroddelweddu, seiciatreg a seicoleg. Bydd yn agor yn nhymor y gwanwyn, 2016.