Ewch i’r prif gynnwys

Strategaeth gyffredinol i gynyddu effeithiolrwydd cyffuriau

22 Hydref 2015

Tablets

Gwyddonwyr yn dylunio dull mwy effeithiol o gyflwyno cyffuriau sy'n targedu celloedd canser a chlefydau eraill

Mae gwyddonwyr wedi dylunio dull newydd o wella'r modd y caiff moleciwlau therapiwtig eu cyflwyno i gelloedd â chlefyd, megis celloedd canser a thwbercwlosis.

Mae llawer o driniaethau cyffuriau yn aneffeithiol am nad ydynt yn gallu cyrraedd eu targedau pwrpasol, sydd y tu mewn i gelloedd.  

I fynd i'r afael â hyn, mae ymchwilwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ac Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, wedi ceisio gwella'r dull o gyflwyno dosbarth eithaf newydd o gyffuriau, sef cyffuriau biotherapiwtig.

Mae'r cyffuriau hyn yn cynnwys gwrthgyrff, fel Herceptin, sy'n targedu celloedd canser y fron a'r stumog. Mae celloedd canser yn aml yn cynnwys protein unigryw ar y wyneb sy'n gweithredu fel côd bar. Felly, mae modd adnabod y celloedd hyn yn gywir fel rhai canseraidd o'u cymharu â'r celloedd eraill iach.

Cyhoeddwyd yr ymchwil yng nghyhoeddiad Nature, Molecular Therapy, ac mae'r ymchwilwyr yn disgrifio arbrofi gyda ffyrdd newydd o dargedu celloedd canser y fron gyda Herceptin, sy'n rhyngweithio'n benodol â phrotein côd bar o'r enw 'Her2'.

Mae gwyddonwyr yn gwybod bod y protein côd bar hwn yn sbarduno celloedd canser i dyfu a rhannu.

Yn y papur, mae'r ymchwilwyr yn disgrifio sut maent wedi gallu dylanwadu ar y ffordd mae Herceptin yn rhyngweithio â Her2, sy'n eistedd ar wyneb rhai celloedd canser y fron.  Drwy addasu'r ffordd mae Herceptin yn rhyngweithio â Her2, maent yn dangos bod Herceptin a Her2 yn cael eu hamgylchynu'n gyflym gan y celloedd canser a oedd yna'n dinistrio'r protein côd bar. 

Mae'r prif awdur, yr Athro Arwyn T. Jones, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn credu y gellir defnyddio'r dull newydd hwn o gyflwyno cyffuriau - o'r enw "trawsgysylltu derbynyddion" (receptor crosslinking) - i dargedu ystod eang o glefydau, o wahanol fathau o ganser a chlefydau genetig a gaiff eu hetifeddu, i glefydau heintus fel twbercwlosis.

"Yr hyn sy'n drawiadol yw ein bod wedi profi ein dull ar Her2 yn ogystal â phroteinau côd bar eraill, a'r un oedd y canlyniad bob tro," meddai’r Athro Jones. "Mae'n debyg y gallai hyn fod yn strategaeth gyffredinol i gynyddu'r cyffuriau a gaiff eu cyflwyno i wahanol fathau o gelloedd sy'n berthnasol i sawl math o glefydau."

Dywedodd yr Athro David Needham, o Brifysgol De Denmarc: "Rwy'n credu bod y data yn anhygoel, ac yn paratoi'r ffordd i ganser dderbyn nanoronynnau gan ddefnyddio un o sawl derbynnydd."
Ariannwyd yr ymchwil gan EPSRC.