Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol

20 Hydref 2015

A close up photo of the top corner of the Hadyn Ellis Building

Mae adeilad ymchwil gwerth £30m ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod yn ail mewn cystadleuaeth genedlaethol sy'n cydnabod arloesedd rhagorol wrth ddylunio prosiectau.

Cafodd Adeilad Hadyn Ellis, ar Gampws Arloesedd y Brifysgol, ei ganmol i'r cymylau ymhlith 500 o gynlluniau eraill yng nghategori Dylunio drwy Arloesedd yng Ngwobrau RICS 2015.

Sicrhaodd y prosiect ei le yn y gwobrau cenedlaethol yn Llundain ar ôl dod yn fuddugol yn ei gategori yng Nghymru.

Mae'r categori yn cydnabod prosiectau sy'n "dangos sut mae dyluniad, arloesedd technegol a dulliau adeiladu wedi creu adeilad unigryw sy'n rhoi ystod eang o fanteision i'r ardal o'i gwmpas".

Dywedodd beirniaid y gwobrau cenedlaethol bod yr adeilad "y cyntaf o'i fath yng Nghymru ac yn dwyn ynghyd rhai o dimau gwyddonol mwyaf blaenllaw'r byd ym meysydd ymchwil meddygol uwch".

Mae hefyd yn gartref i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Choleg Graddedigion y Brifysgol.

Mae'r llawr gwaelod yn cynnwys ardal gyhoeddus ar gyfer darlithoedd, arddangosfeydd a chynadleddau am waith y brifysgol, a darlithfa i 150 o bobl.

Mae'r adeilad wedi ei enwi er cof am y diweddar Athro Hadyn Ellis, Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol.

Mae eisoes wedi cael ei gydnabod am ei gynaliadwyedd, a dyfarnwyd categori Addysg Uwch Gwobrau Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) Cymru iddo yn 2012.

Rheolwyd y prosiect gan dîm Ystadau'r Brifysgol, gyda phartneriaid gan gynnwys y penseiri IBI Nightingale, Syrfewyr Meintiau CAPITA, Peirianwyr Sifil a Strwythurol BDP, Peiriannydd Gwasanaethau AECOM a'r contractwyr BAM.

Rhannu’r stori hon