Ewch i’r prif gynnwys

Y Crysau Duon yn hyfforddi yng nghampfa Prifysgol Caerdydd

19 Hydref 2015

All Blacks Training bikes

Mae'r Crysau Duon wedi bod yn hyfforddi gyda chyfleusterau chwaraeon Prifysgol Caerdydd, wrth iddynt ymdrechu i gadw gafael ar Gwpan Rygbi'r Byd

Dathlodd Seland Newydd fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, a bydd y tîm yn wynebu De Affrica, gorchfygwyr Cymru, yn Twickenham yn y rownd gynderfynol ddydd Sadwrn.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r tîm mawreddog hwn ddefnyddio cyfleusterau modern y Brifysgol. Yn ystod cyfres ryngwladol yr hydref yng Nghaerdydd y llynedd, gwnaethant ddefnydd o'r ganolfan cryfder a chyflyru, a bu timau rhyngwladol Awstralia, De Affrica a Fiji yn paratoi ar gyfer gemau'r hydref yn y ganolfan hyfforddi honno hefyd.

All blacks training weights

Roedd hwyliau da ar dîm Seland Newydd wrth iddynt hyfforddi yn y Brifysgol. Dywedodd y tîm fod pawb yn canolbwyntio ar y gêm nesaf, wrth iddynt ymdrechu i gadw gafael ar Gwpan y Byd, ar ôl iddynt ei ennill yn erbyn Ffrainc yn 2011.

Soniodd Sonny Bill Williams am ei gyffro ynghylch cynnydd y tîm, a meddai Beauden Barrett: "Fel tîm, dyma lle'r ydym am fod. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein gêm nesaf."

Sonny Bill Williams
Sonny Bill Williams
All blacks training floor

Ychwanegodd TJ Perenara: "Rydym yn gwybod bod tasg fawr o'n blaenau, ac rydym yn edrych ymlaen at yr her."

TJ Perenara and team mates
TJ Perenara and team mates

Dywedodd sawl un o'r chwaraewyr eu bod wedi mwynhau eu hamser yng Nghaerdydd yn fawr, lle mae'r Crysau Duon wedi chwarae dwy gêm.

Mae tîm Seland Newydd wedi bod yn westeion poblogaidd yng Nghymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, gan ymweld â disgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn, a chymryd rhan mewn gŵyl rygbi ar Gampws Pencoed Coleg Penybont.

Meddai Stuart Vanstone, pennaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gennym berthynas hirsefydlog gyda’r Crysau Duon sydd wedi defnyddio cyfleusterau’r Brifysgol ers blynyddoedd lawer pan maent wedi chwarae yn erbyn Cymru yng nghyfres ryngwladol yr hydref, Roedd yn bleser gennym eu croesawu eto ar gyfer Cwpan y Byd a dymunwn bob llwyddiant iddynt yng ngweddill y gystadleuaeth.

“Erbyn hyn, mae’r ganolfan cryfder a chyflyru yn cael ei hystyried fel un o’r cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd, ac o bosibl y gorau un.

“Mae timau rhyngwladol sydd ar daith yn ymweld â’r ganolfan yn rheolaidd, ac mae llawer o unigolion a thimau chwaraeon y Brifysgol yn hyfforddi yma hefyd.”