Ewch i’r prif gynnwys

Beth ddylai perthynas Cymru fod â'r UE?

14 Hydref 2015

EU flag moving in the wnd

Lansio prosiect newydd i archwilio perthynas Cymru â'r UE cyn y refferendwm

Mae prosiect newydd wedi'i lansio i roi sylw i rôl Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd, yng nghyd-destun y refferendwm sydd ar y gweill i bennu a ydym am aros yn yr UE ai peidio.

Mae academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru a'r Ganolfan ar gyfer Cyfraith a Llywodraethiant Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sefydlu prosiect Cymru a'r Undeb Ewropeaidd i gefnogi trafodaeth wybodus a chytbwys am y berthynas rhwng Cymru a'r UE cyn y refferendwm ynghylch aelodaeth â'r UE.  

Ariennir y prosiect nodedig hwn gan fenter y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), o'r enw "Y DU mewn Ewrop sy'n newid".

Mae pedair rhan gysylltiedig i brosiect Cymru a'r UE. Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar feysydd allweddol o bolisi sy'n canolbwyntio ar gymwyseddau a ddatganolwyd i Gymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol a'r amgylchedd, ac yn ystyried beth allai "Brexit" ei olygu i Gymru. Cynhelir digwyddiadau i randdeiliaid drwy gydol y flwyddyn nesaf i drafod ac i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa benodol Cymru yn yr UE.

Mae'r ail ran yn cynnwys ymchwil i rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth lunio polisïau'r UE. Mae rôl fwy sylweddol ar gyfer cyrff deddfwriaethol Aelod-wladwriaethau yn ganolog i agenda diwygio Llywodraeth y DU ar gyfer yr UE.       

Trydedd rhan prosiect Cymru a'r UE yw parhau â rhwydwaith presennol Cyfnewidfa yr UE a Chymru (EU Exchange Wales) a sefydlwyd yn 2013. Mae hwn yn fforwm ar gyfer trafodaeth reolaidd rhwng llunwyr polisi ac academyddion sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â'r UE.

Yn olaf, bydd prosiect Cymru a'r UE hefyd yn cynnal sesiynau gyda phobl ifanc dros y flwyddyn nesaf i bwyso a mesur cwestiynau sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng Cymru a'r UE.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Jane Hutt AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllid a Busnes y Llywodraeth: "Bydd y 18 mis nesaf yn hollbwysig ar gyfer perthynas y DU â'r UE, a bydd y penderfyniadau a wneir yn dylanwadu ar fywydau pob un ohonom.  Dyma fenter gyffrous ac amserol iawn, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn."

Dywedodd Uwch-gymrawd ESRC ac aelod o brosiect Cymru a'r UE, Dr Jo Hunt: "Mae perthynas y DU â'r UE yn debygol o newid, ni waeth beth fydd pleidlais y refferendwm - gadael neu aros. Mae angen deall y canlyniadau cyfreithiol ar gyfer Cymru."

Ychwanegodd Dr Rachel Minto, aelod o'r prosiect:"Drwy weithgareddau amrywiol prosiect Cymru a'r UE – pob un ohonynt yn seiliedig ar ymchwil trwyadl, annibynnol ac academaidd – ein nod yw cefnogi trafodaeth wybodus yng Nghymru.