Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes y Brifysgol yn cyhoeddi camau i ailddiffinio addysg busnes yn sylweddol

14 Hydref 2015

Postgraduate Teaching Centre

Cyhoeddi camau i ailddiffinio addysg busnes gyda dull newydd o ddarparu gwerth cyhoeddus "a gaiff ei arwain gan heriau"

Heddiw (14 Hydref), bydd Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd yn dadorchuddio camau i ailddiffinio'r hyn mae'n ei gynnig i fyfyrwyr a'r gymdeithas yn sylweddol, fel rhan o ymgyrch i fod yr ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd i osod gwella cymdeithasol, yn ogystal â datblygu economaidd, wrth wraidd ei gweithgarwch ymchwil ac addysgu.

Bydd yr Ysgol - a ddaeth yn 6ed o 101 yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 Llywodraeth y DU - yn newid ei ffocws er mwyn rhoi gwerth cymdeithasol, yn ogystal â gwerth economaidd, wrth wraidd ei gweithgarwch ymchwil ac addysgu amlddisgyblaethol, i fynd i'r afael â'r prif heriau sy'n wynebu sefydliadau a thimau rheoli heddiw.

Mae'r Ysgol yn adolygu ei gweithgarwch ymchwil ac addysgu i weithredu dull amlddisgyblaethol, a gaiff ei arwain gan heriau, i wella amodau cymdeithasol yn ogystal â rhai economaidd.

I fyfyrwyr, bydd hyn yn golygu cyflwyno cynnwys y cwrs yng nghyd-destun themâu byd-eang a heriau dybryd, a rhoi safbwyntiau newydd gan ddisgyblaethau eraill i greu maes llafur cyflawn sy'n gydnaws â gofynion cymdeithas fodern. Bydd hyn hefyd yn helpu i wella cyflogadwyedd myfyrwyr a'u sgiliau meddwl yn feirniadol.

O safbwynt ymchwil, bydd y model gwerth cyhoeddus newydd yn gweld yr Ysgol yn rhannu ei harbenigedd ac yn meithrin cysylltiadau cryfach â disgyblaethau eraill, megis meddygaeth a pheirianneg, er mwyn datblygu atebion arloesol i'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu diwydiant a chymdeithas.

Er enghraifft, bydd yr Ysgol yn ceisio efelychu llwyddiant prosiectau ymchwil cydweithredol arloesol blaenorol, fel yr un a welodd economegwyr o'r Ysgol Busnes yn gweithio gyda deintyddion i fynd i'r afael â thrais sy'n gysylltiedig ag alcohol. O ganlyniad i'r prosiect, hanerwyd nifer y dioddefwyr trais a oedd yn cael eu trin yn Adrannau Achosion Brys Caerdydd rhwng 2002 a 2013, ac mae wedi arbed £5m y flwyddyn i systemau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol Caerdydd.

Yn yr un modd, bydd y model newydd hefyd yn gweld yr Ysgol yn creu cysylltiadau cryfach ar draws y diwydiant, gan adeiladu ar brosiectau fel darn diweddar o waith a welodd ei harbenigwyr logisteg yn gweithio gyda'r Ysgol Peirianneg i wella cynhyrchiant y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Bydd y dull gweithredu newydd hwn hefyd yn cynnwys y diwydiant mewn prosesau ymddygiad a dylunio ymchwil a dulliau dylunio a chyflwyno addysg. Bydd yr Ysgol hefyd yn cymryd rôl arweiniol wrth sefydlu Parc Ymchwil i'r Gwyddorau Cymdeithasol – y cyntaf o'i fath yn y byd, a chanolfan ddatblygu sy'n galluogi ymchwil amlddisgyblaethol a chydweithio.

Bydd arbenigedd yr Ysgol Busnes hefyd yn cael ei ddatblygu gyda myfyrwyr sy'n astudio pynciau ar wahân i fusnes, drwy sefydlu 'Academi Arloesedd' yn y Brifysgol i ddarparu rhaglen ar gyfer darpar entrepreneuriaid a busnesau newydd.

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: Mae gan Ysgol Busnes flaenllaw'r Brifysgol eisoes enw da fel arloeswyr byd-eang, a safle cryf yn economi Cymru, wrth gyfrannu oddeutu £85m bob blwyddyn.

"Ond fel Ysgol, rydym yn gweithredu dull strategol newydd sy'n ceisio cynhyrchu gwerth cyhoeddus sy'n cynnwys hyrwyddo twf economaidd, a mwy.

 "I'r gymdeithas ehangach, byddwn yn cyflawni ein nod o yrru twf economaidd a gwelliant cymdeithasol. Fel Ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu damcaniaeth a'i throi'n weithgarwch er mwyn cyflawni gwelliant economaidd a chymdeithasol gwirioneddol a phendant.

"Mae gennym y sgiliau a'r adnoddau i wneud gwahaniaeth sylweddol, ac rydym yn benderfynol o wneud hynny. Wrth fynd ar drywydd yr agenda blaengar ac arloesol hwn, byddwn yn cael ein cydnabod yn fyd-eang fel yr ysgol busnes gyntaf i ymrwymo i ddarparu gwerth cyhoeddus.

Bydd y strategaeth newydd yn cael ei lansio heddiw mewn digwyddiad yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedig newydd gyda'r Athro John Brewer (Prifysgol Queen's, Belfast), sy'n llais cyfarwydd yn y drafodaeth ar werth cyhoeddus, Anne Kiem (Prif Weithredwr Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes), Edwina Hart (Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth) a Roger Lewis (Undeb Rygbi Cymru a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol yr Ysgol).

Rhannu’r stori hon