Ewch i’r prif gynnwys

Apêl i olrhain aelodau o deulu tîm cyntaf Caerdydd

25 Mawrth 2019

Cardiff University netball team c1920s
University netball club c1920s

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am aelodau teulu cystadleuwyr mewn digwyddiad chwaraeon arloesol i brifysgolion yn 1919.

Eleni, mae prifysgolion yn dathlu 100 mlynedd ers dechrau chwaraeon cystadleuol rhwng prifysgolion Prydain.

Prifysgol Caerdydd, a alwyd yn Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy bryd hynny, oedd un o'r 10 aelod sefydlol mewn sefydliad a grëwyd ym mis Mawrth 1919 i hybu chwaraeon myfyrwyr.

Cafodd hanes ei greu pan drefnodd Bwrdd Athletau Rhyng-Golegol Lloegr a Chymru ddigwyddiad athletau ym Manceinion ym mis Mai 1919 a oedd yn cynnwys naw prifysgol – gan gynnwys Caerdydd.

Yn ôl The Manchester Guardian, llwyddodd y digwyddiad i ddenu 2,000 o wylwyr ac roedd yn "llwyddiannus iawn".

Roedd digwyddiadau yn cynnwys rasys un filltir a 100-llath, clwydi, naid uchel, naid hir a chystadleuaeth tynnu rhaff.

Yn ôl The Manchester Guardian, roedd gan BC Watson o Gaerdydd, a oedd yn cystadlu yn y naid uchel, "y steil harddaf o bell ffordd, ond roedd i weld yn blino ar y foment gritigol a daeth yn drydydd".

Cafodd BC Watson ddiwrnod prysur, gan hefyd ddod yn drydydd yn rownd derfynol y ras 100 llath ar ôl gorffen yn ail yn ei ras ragbrofol.

Dyma ddechrau cystadlaethau chwaraeon rhwng prifysgolion fel yr ydym ni'n eu hadnabod - sydd bellach yn hynod boblogaidd ac wedi'u trefnu gan BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain).

Mae gan Brifysgol Caerdydd sawl hen lun o'i thimau yn y cyfnod hwnnw ond dim un o'r digwyddiad cyntaf hwnnw ym Manceinion.

Mae'r Brifysgol yn apelio i aelodau teulu'r cystadleuwyr gwreiddiol hynny - fel BC Watson - i wneud eu hunain yn hysbys, a hoffent hefyd ddod o hyd i aelodau'r tîm o'r hen ffotograffau chwaraeon.

Yn ôl y Pennaeth Chwaraeon, Stuart Vanstone: "Rydym yn falch iawn o'n treftadaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd ac felly byddai'n wych olrhain unrhyw aelodau teulu yr athletwyr arloesol hynny, fel BC Watson, a chlywed am unrhyw straeon sydd wedi cael eu trosglwyddo drwy'r cenedlaethau.

"Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw luniau o'n myfyrwyr yn cystadlu yn y digwyddiad cyntaf rhwng prifysgolion ym Manceinion ond mae gennym luniau gwych o'n timau o'r cyfnod yn cystadlu mewn chwaraeon megis hoci, pêl-rwyd, tenis a pholo dŵr.

"Byddai'n ddiddorol clywed mwy am rai o'r cystadleuwyr hynny hefyd os oes rhywun yn adnabod wyneb cyfarwydd."

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gefnogwr ac yn gyfrannwr cryf i fyd chwaraeon addysg uwch ers y blynyddoedd cyntaf hynny o chwaraeon rhwng prifysgolion.

Mae'r Brifysgol bellach yn gartref i 66 o glybiau chwaraeon, gyda dros 80 o dimau yn rhan o weithgareddau chwaraeon rheolaidd BUCS ar brynhawniau Mercher.

Mae hyn yn ogystal â'r nifer o glybiau chwaraeon sy'n cystadlu mewn digwyddiadau pencampwriaeth rheolaidd megis nofio, rhwyfo ac athletau.

Gall unrhyw un sydd ag atgofion o'r cystadleuwyr gwreiddiol neu'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y ffotograffau gysylltu â sport@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Our students can take part in over 60 sports clubs, many of which compete in BUCS (British Universities & Colleges Sport) and national competitions.