Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno cenhedlaeth newydd o gyffuriau i gleifion

22 Mawrth 2019

John Atack, Peter Halligan and Simon Ward in the lab
O'r chwith i'rdde: yr Athro John Atack, Peter Halligan, yr Athro Simon Ward

Mae Prifysgol Caerdydd yn symud ymlaen â’r broses o ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer iechyd meddwl a chyflyrau’r system nerfol ganolog drwy lansio’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.

Drwy ganolbwyntio ar feysydd o angen clinigol heb ei fodloni, bydd y sefydliad newydd yn datblygu meddyginiaeth newydd i wella bywydau pobl ar draws y byd.

Mae’r sefydliad sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru, Llywodraeth Cymru, yn fuddsoddiad gwerth £14m, sy’n ceisio rhoi Cymru ar flaen y gad mewn arloesedd meddygol. Bydd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, a fydd wedi’i leoli yn Ysgol hynod lwyddiannus y Biowyddorau, hefyd yn gyfle gwych i hyfforddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr sy’n darganfod meddyginiaethau.

Bydd un o brif prosiectau mawr cyntaf y Sefydliad yn canolbwyntio ar wella meddyginiaeth gorbryder - maes ymchwil lle nad oes unrhyw addasiadau mawr wedi’u gwneud ers dechrau 1960. Diolch i fuddsoddiad mawr o £3.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, bydd y tîm yn canolbwyntio ar ddatblygu cyffuriau sy’n lleihau’r sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig â chyffuriau lleihau gorbryder benzodiazepine.

MDI plaque unveiling
O’r chwith i’r dde: yr Athro John Atack, Peter Halligan, yr Athro Simon Ward

Bydd grant newydd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), yn caniatáu i’r tîm ddatblygu’r dewis o feddyginiaethau i bobl gyda syndrom X brau - y math mwyaf cyffredin o anabledd dysgu etifeddol. Drwy ganolbwyntio ar brotein sy’n adnabyddus am reoleiddio’r cysylltiadau rhwng celloedd nerfau, nod y tîm yw datblygu meddyginiaeth newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u teuluoedd sy’n byw gyda’r cyflwr.

Yn ôl y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams: "Mae buddsoddi mewn ymchwil wyddonol newydd yn hanfodol i’n prifysgolion ac economi hirdymor Cymru yn fwy eang. Mae ein rhaglen Sêr Cymru sy’n werth £95m, yn hanfodol ar gyfer cadw Cymru gam ar y blaen mewn sawl maes o arloesedd gwyddonol."

Bydd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn cynnig yr adnoddau o'r radd flaenaf sydd eu hangen er mwyn cefnogi ymchwil arloesol a datblygu ein gallu ymhellach i gynhyrchu ymchwil gyffrous sy'n aml yn gallu newid bywydau yma yng Nghymru.

Kirsty Williams AM Minister for Education

Yn ôl Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: "Rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â lansio'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, am ei fod yn cynnig cyfle arall i ddangos sut mae rhaglen Sêr Cymru'n parhau i gyfrannu at adnoddau ymchwil cynyddol Cymru. Mae canfod a datblygu cyffuriau a diagnosteg newydd yn faes heriol dros nifer o flynyddoedd, ond sydd â'r potensial o effeithio ar fywydau cleifion ledled y byd.

"Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn gam pellach ymlaen tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru i wireddu ymchwil cynhyrchiol, o safon uchel, sy'n cael effaith yma yng Nghymru. Mae hefyd yn rhan o’r broses o wneud yn siŵr bod Cymru'n parhau i fod yn gystadleuol yn yr economi fyd-eang. Mae rhaglen Sêr Cymru yn gweithio tuag at drawsnewid capasiti ymchwil yn sylweddol, a gosod Cymru'n gadarn ar y map fel canolfan darganfyddiadau gwyddonol."

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Cleifion yw canolbwynt ein gweledigaeth ar gyfer y sefydliad. Ein prif nod yw lleihau’r effaith ar gleifion, teuluoedd a chymdeithas iechyd meddwl ag anhwylder niwro-ddirywiol drwy drosi ein dealltwriaeth gynyddol o’r afiechyd yn gyffuriau newydd.

Professor Simon Ward
Professor Simon Ward

“Rydym yn bwriadu defnyddio ein gallu i ganfod cyffuriau drwy weithio gyda chydweithwyr ar draws Prifysgol Caerdydd i amlygu anghenion meddygol eraill sydd heb eu diwallu, megis canser.

“Mae ein Sefydliad yn amlddisgyblaethol, yn dod ag arbenigwyr o sawl disgyblaeth wyddonol ynghyd, er mwyn cydweithio a chanfod meddyginiaethau newydd.

Rydym yn adeiladu ar ein henw da a llwyddiannus fel gwyddonwyr darganfod meddyginiaethau, gyda phrofiad helaeth mewn ymchwil diwydiant ac academaidd i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer cleifion.

Yr Athro Simon Ward Cyfarwyddwr, Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Dywedodd yr Athro John Atack, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, rydym yn dod â gwyddonwyr o’r radd flaenaf ynghyd i helpu i ganfod cyffuriau posibl newydd.

“Mae’r amgylchedd gwyddonol rhagorol yn ardal Caerdydd yn golygu ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i drosi gwyddoniaeth syml er budd cleifion.

Professor John Atack
Yr Athro John Atack

Dywedodd Prif Weithredwr Anxiety UK, Nicky Lidbetter: “Mae lansiad Uned Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddatblygiad i’w groesawu a fydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i gefnogi datblygiad triniaethau a meddyginiaethau newydd ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys anhwylderau gorbryder. Rydym eisoes yn gysylltiedig â’r gwaith a wneir gan yr Athro John Atack, sy’n datblygu’r genhedlaeth nesaf o fensodiasepinau, ac yn croesawu hyn ac ymchwil newydd ar anhwylderau gorbryder. Yn hanesyddol, nid yw’r maes iechyd meddwl hwn wedi derbyn y sylw y mae’n ei haeddu o ran ymchwil er bod anhwylderau o’r fath mor gyffredin mewn cymdeithas.

Rhannu’r stori hon