Ewch i’r prif gynnwys

Harneisio gwyddoniaeth gofod er mwyn monitro cyflwr bwyd

8 Mawrth 2019

Rocket

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu technoleg newydd fydd yn gallu ‘arogli’ pan mae ffrwythau a llysiau’n dechrau pydru. Gallai hyn arbed tunelli o wastraff.

Yn ôl corff ymgynghorol y DU ynghylch gwastraff, WRAP, mae 1,200,000 o dunelli o ffrwythau a llysiau’n cael eu gwastraffu’n ddiangen bob blwyddyn.

Ond, mae tîm ymchwil o’r DU yn gobeithio datblygu system asesu gyflym a chost effeithiol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, drwy ddefnyddio techneg a ddefnyddir yn aml mewn gwyddoniaeth gofod. Yn ogystal â helpu i leihau gwastraff, byddai hyn yn gadael i gyflenwyr bwyd ganfod pryd yn union mae cyflwr y bwyd ar ei anterth, ac o ganlyniad, pryd mae gwerth maethol y bwyd yn fwyaf i gwsmeriaid.

Mae’r tîm eisoes wedi pennu’r set unigryw o farcwyr moleciwlaidd y mae dail roced yn eu rhyddhau cyn iddynt ddechrau pydru, ond, roedd y tîm am weld a allent ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer mathau eraill o gynnyrch.

Ymhlith aelodau’r tîm y mae Dr Hilary Rogers a Dr Carsten Müller o Brifysgol Caerdydd, Dr Geraint Morgan o’r Brifysgol Agored a Dr Simon Sheridan o Applied Science & Technology Solutions Cyf.

Gobeithiwn y gallwn leihau gwastraff drwy greu techneg sy’n gallu asesu cyflwr cynhyrchion bwytadwy. Bydd hyn yn gadael i’r diwydiant asesu oes silff bwyd yn well. Mantais defnyddio’r dechnoleg hon yw nad oes angen paratoi sampl cymhleth.

Yr Athro Hilary Rogers Reader

Er bod y tîm eisoes wedi llwyddo i allu canfod pryd mae dail roced ar fin dechrau pydru, mae nifer o broblemau logistaidd i’w goresgyn cyn iddynt allu creu dyfais addas ar gyfer y diwydiant.

Defnyddiodd y gwaith cychwynnol yng Nghaerdydd dechneg labordy gostus, sef Cromatograffaeth Nwy - Sbectrometreg Màs (GC-MS) ar gyfer yr ymchwil hon - sy’n ffordd o wahanu cyfansoddion cemegol gwahanol a’u hadnabod. Mae’r dechnoleg hon wedi cael ei defnyddio ar gyfer nifer o wahanol bwrpasau, o wyddoniaeth hinsawdd i wyddoniaeth planedau.

Fodd bynnag, i fod o fudd at ddibenion cyflenwi neu adwerthu, mae angen i’r ddyfais fod yn fach, yn gludadwy, ac yn rhad i’w gynhyrchu. Ychwanegodd Dr Rogers: “Ein her fwyaf bellach yw trosi’r dechnoleg gymhleth hon yn llwyfan gost effeithiol fel y gellir ei defnyddio ar wahanol gamau yn y gadwyn gyflenwi, o gynhyrchu i adwerthu.”

Food Network+ STFC ariannodd y prosiect ymchwil, sy’n dod ag ymchwilwyr o STFC a gwahanol ddisgyblaethau yn y sector bwyd-amaeth ynghyd. Eu nod yw datrys un o heriau mwyaf yr byd o ran cynaliadwyedd bwyd.

Yn flaenorol, mae Dr Morgan a Dr Sheridan wedi datblygu fersiwn ar GC-MS sydd yr un maint â blwch esgidiau ar gyfer STFC, ac ar gyfer fforio planedau. Dyma fu’r teclyn Ptolemy ar genhadaeth Rosetta.  Ond nawr, mae’r tîm yn gobeithio trosi’r gwersi a ddysgwyd yn llwyfan gludadwy a fforddiadwy.

“Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos ei bod hi’n bosibl, heb os,” meddai Dr Morgan. “Rydym wedi canfod ateb amgen ar gyfer synhwyrydd sydd gryn dipyn yn rhatach. Gall y synhwyrydd hwn feintioli cyfansoddion y marcwyr yn gywir, hyd yn oed ar lefelau is na sbectromedr màs. Mae hyn yn hwyluso proses o samplo a dadansoddi’n gyflym ac yn syml y gallai unrhyw un ei defnyddio ar unrhyw gam o’r gadwyn gyflenwi.  Rydym wedi datblygu a gwerthuso prototeip effeithiol a bellach, mae angen cyllid arnom i ddylunio’r cynnyrch a datblygu teclyn y gellir ei werthu i amryw randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi. Drwy ganfod y marcwyr pwysig, bydd y dechnoleg hon yn llwyfan addas ar gyfer amrywiaeth o gynnyrch amaeth.”

Ceir mwy o wybodaeth am y rhwydwaith a’r prosiectau eraill a ariennir yma.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil