Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg newydd ar ddiabetes yn ystod beichiogrwydd

8 Mawrth 2019

Pregnant woman having a GD test

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod y gallai menywod sy'n cymryd metfformin a/neu inswlin yn ystod beichiogrwydd leihau’r perygl o gymhlethdodau i'w plentyn yn yr hirdymor.

Canfu’r tîm nad oedd brychau menywod gafodd eu trin â’r cyffuriau yn dangos yr addasiadau i DNA a gysylltir â diabetes math 2, tra roedd yr addasiadau hynny i’w gweld ym mrychau menywod na chafodd eu trin â’r cyffuriau.

Mae'r canfyddiad yn awgrymu y gallai plentyn a aned i fenyw sy'n cael y driniaeth gael ei warchod yn erbyn y risg gynyddol o ddatblygu diabetes math 2, a gysylltir fel arfer â dod i gysylltiad â diabetes yn ystod beichiogrwydd.

Mae un ym mhob saith genedigaeth yn cael ei effeithio gan ddiabetes yn ystod beichiogrwydd (GDM), ac mae'r Ffederasiwn Rhyngwladol Diabetes yn rhagweld mai cynyddu fydd y nifer hwn yn y blynyddoedd sydd i ddod. Tra gellir rheoli GDM gyda diet neu gyffuriau, mae GDM heb ei reoli yn cynyddu'r risg o gael babi mawr, a genedigaeth drwy doriad Cesaraidd.

Mae menywod sy'n cael diagnosis o GDM yn fwy tebygol o brofi iselder sy'n ymwneud â beichiogrwydd, a saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes melitws math 2 (T2DM) yn hwyrach mewn bywyd. Gall GDM gael effaith sylweddol ar eu plant hefyd, a'u gwneud yn llai tebygol o gyrraedd cerrig milltir datblygiadol yn amserol, yn fwy tebygol o fod dros bwysau, gyda risg sydd chwe gwaith yn fwy o T2DM.

O ystyried sut mae gordewdra tra'n feichiog yn dod yn fwyfwy cyffredin ledled y byd, mae deall arwyddion a goblygiadau GDM o bwys mawr.

Yr Athro Rosalind John Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Yr Athro

"Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod gan unigolion â T2DM delomerau llai – dilyniant DNA sy'n gweithredu fel 'cap' ar derfynau cromosomau ac yn helpu i gynnal sefydlogrwydd genomeg. Roedd un astudiaeth hefyd yn awgrymu newidiadau mewn telomerau brychol yn dilyn diabetes yn ystod beichiogrwydd, cyflwr beichiogrwydd sy'n gysylltiedig â risg uwch o T2D. Awgryma hynny y gellir caffael telomerau byrrach yn ystod beichiogrwydd, gan gyfrannu at ddatblygiad T2D.

"Gan ddefnyddio dadansoddiad hynod eglur o hyd telomerau a ddatblygwyd gan yr Athro Duncan Bird, gwnaethom gadarnhau'r canfyddiad gwreiddiol bod GDM yn gwaethygu erydiad telomerau yn y brych ac yn rhyfeddol, canfyddom fod hynny ond yn digwydd mewn brych o fabanod gwrywaidd. Dangosom ymhellach nad yw menywod â GDM gafodd eu trin â metfformin a/neu inswlin yn dangos yr arwyddion hynny o fyrhau telomer brychol. Gall y llwybr hwn o driniaeth warchod yn erbyn erydiad telomerau, arsylwad sydd â'r potensial o gael goblygiadau clinigol pwysig.

"Cafodd ein hastudiaeth ei chynnal ar nifer fach o samplau ac mae angen cynnal gwaith pellach yn y maes hwn, ond mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai mabwysiadau triniaethau meddygol wedi'u targedu wrth gam cynnar mewn beichiogrwydd GDM pan ei fod yn hysbys mai gwryw yw'r ffoetws gynnig strategaeth effeithiol ar gyfer atal deilliannau andwyol i blant."

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil