Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â diogelwch bwyd byd-eang

7 Mawrth 2019

Lansiodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig ei Agenda Bwyd Trefol newydd yn Rhufain heddiw (dydd Iau 7 Mawrth 2019).

Bydd y fframwaith newydd yn arwain ymdrechion, buddsoddiad ac ymyriadau’r CU ar fwyd trefol, gan fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ac ansicrwydd.

Mae Roberta Sonnino, Athro Polisi a Chynllunio Amgylcheddol a Chyfarwyddwr Effaith yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r Agenda newydd. Mae hi'n eiriolwr brwd dros y rôl arloesol y gall ymchwil ei chwarae wrth ddatblygu ymyriadau ymarferol, mesuradwy a chynaliadwy i ysgogi mwy o ddiogelwch bwyd.

Yr Athro Sonnino oedd yn gyfrifol am ddrafftiau cynnar y fframwaith newydd, gan weithio gyda thîm o gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd yn cynnwys Dr Helen Coulson, yr Athro Terry Marsden a'r Athro Kevin Morgan, gyda chyfraniadau gan Dr Antonio Ioris a Dr Peter Mackie. Ers hynny mae hi wedi cydweithio'n agos â chydweithwyr FAO, gan rhoi mewnbwn ac adolygiadau adeiladol i'r fersiwn gyfredol.

“Rwy'n falch iawn bod y cynllun gweithredu newydd hwn wedi'i gyhoeddi heddiw. Bydd yn cefnogi'r FAO wrth helpu llywodraethau lleol ac is-genedlaethol i hyrwyddo systemau bwyd cynaliadwy a mynd i'r afael â diogelwch bwyd.”

Ychwanegodd yr Athro Sonnino: "Rwy'n credu'n gryf bod cofleidio polisi bwyd creadigol sy’n hyrwyddo ac yn hwyluso yn fuddsoddiad mewn iechyd dynol ac amgylcheddol yn y dyfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â mynediad annheg at fwyd, ac yn ystyried y math o farchnad fwyd yr ydym am ei chreu a'i hyrwyddo mewn cymunedau ledled y byd. Mae atebion ar gael i ni, ond rhaid inni weithio mewn partneriaeth - ymchwilwyr, llunwyr polisïau a deddfwyr -i sicrhau newid go iawn a pharhaol a chyflawni ein targed o fyd #ZeroHunger erbyn 2030."

Lansiwyd yr Agenda ym mhencadlys yr FAO yn Rhufain, yr Eidal, gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, José Graziano da Silva.

Mae’r Athro Sonnino yn awdurdod sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth bwyd ac mae ei harbenigedd ymchwil yn cynnwys systemau bwyd lleol, caffael bwyd cyhoeddus, llywodraethu bwyd trefol a diogelwch bwyd. Yn ychwanegol i’w rôl fel ymgynghorydd i’r Comisiwn Ewropeaidd a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, mae hefyd wedi gweithio ar ran Llywodraeth Cymru.

Darllenwch y cyhoeddiad: Urban Food Agenda - Leveraging sub-national and local government action to ensure sustainable food systems and improved nutrition.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.