Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith celf Atlas Llenyddol yn mynd ar daith

4 Mawrth 2019

Mae sioe deithiol drwy Gymru gyfan sy'n arddangos gwaith celf newydd a gomisiynwyd i gefnogi'r Atlas Llenyddol rhyngweithiol ar-lein wedi dechrau.

Bydd yr arddangosfa am Rithganfyddiadau Cartograffig yn ymweld â chwe lleoliad ledled Cymru yn ystod y 12 mis nesaf, ac yn gorffen gyda digwyddiad chwe wythnos yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng Ionawr a Chwefror 2020.

Mae Atlas Llenyddol, menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru(WISERD), yn plotio lleoliadau o gwmpas Cymru y mae nofelau Saesneg yn sôn amdanynt.

I gefnogi'r prosiect, comisiynwyd 12 artist i greu gwaith celf gwreiddiol i adlewyrchu pob llyfr:

Oriel Davies yn y Drenewydd yw'r lleoliad cyntaf i gynnal yr arddangosfa deithiol (9 Chwefror - 18 Mawrth), ac yna Pontio, Bangor (7 Mawrth - dyddiad gorffen i'w gadarnhau), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (23 Mawrth - 8 Mehefin), Amgueddfa Abertawe (6 Gorffennaf - 8 Medi) a Galeri Caernarfon (13 Medi - 25 Hydref).

Meddai’r Athro Jon Anderson, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y prosiect: "Mae nifer fawr o ymwelwyr wedi defnyddio'r wefan ac archwilio'r map rhyngweithiol ar gyfer pob un o'r 12 nofel ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng daearyddiaeth a llenyddiaeth."

"Rydw i wrth fy modd bod y sioe deithiol wedi dechrau a bod pobl yng Nghymru yn gallu gweld a gwerthfawrogi adlewyrchiadau a chynrychioliadau meddylgar ac arloesol o themâu allweddol y deuddeg nofel a ddewiswyd. Rwy'n gobeithio y byddant yn eu hystyried yr un mor ddiddorol ac ysgogol ag y gwnes i, a'u bod yn ennyn ymdeimlad o le ac amser.”

Yr Athro Jon Anderson Reader in Human Geography

Porwch drwy'r yr Atlas Lenyddol Rhyngweithiol, a gweld y gwaith celf dan sylw.

Rhagor o wybodaeth am y lleoliadau arddangos sydd i ddod.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.