Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Ieithoedd Modern yn croesawu Olivette Otele i Gaerdydd

5 Mawrth 2019

Dr Andrew Dowling yn croesawu’r Athro Olivette Otele i Brifysgol Caerdydd

Y mis Chwefror hwn, gwahoddwyd yr Athro Olivette Otele i siarad â staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Yr Athro Otele oedd y fenyw ddu gyntaf yn y DU i fod yn athro hanes mewn prifysgol.

Mae’r Athro Otele yn dod o’r Camerŵn yn wreiddiol ac mae’n arbenigo mewn cof torfol a geowleidyddiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun hanes trefedigaethol Prydain a Ffrainc. Fe gynhaliodd yr Athro Otele, a dderbyniodd gadair athro gan Brifysgol Caerfaddon yn 2018, ddarlith gyhoeddus ddiddorol dros ben ar 6 Chwefror 2019 am y Cof Hanesyddol o Gaethwasiaeth. Mae gan yr Athro Otele enw da rhyngwladol ac roedd ar restr y BBC o’r 100 Menyw Bwysicaf yn y Byd yn 2018.

Yn y ddarlith, a drefnwyd gan uned ymchwil Gwrthdaro, Trychinebau a Datblygiad yr Ysgol Ieithoedd Modern, cyfeiriwyd at brofiad hanesyddol a’r cof o gaethwasiaeth gan gymharu profiad hanesyddol Prydain a Ffrainc. Cafodd y ddarlith, oedd yn llawn damcaniaethau, ei chyflwyno mewn modd agored a hygyrch, a chafodd ei chanmol yn fawr.

Rhannu’r stori hon