Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Poster Blynyddol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas

5 Mawrth 2019

Poster Day

Yn ystod yr wythnos hon, cynhaliwyd Diwrnod Poster blynyddol yr Ysgol Fferylliaeth yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr blwyddyn olaf y rhaglen MPharm yn cwblhau eu prosiectau ymchwil eu hunain. Maent yn dysgu am dechnegau a gweithdrefnau labordy, a dulliau dadansoddi data sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd o ymchwil sylfaenol i ymarfer fferyllol. Ar ddiwedd y prosiectau, mae’r myfyrwyr yn arddangos eu canlyniadau drwy gyfres o bosteri mewn lleoliad sydd wedi’i osod yn debyg i gynhadledd.

Marianne Collins
Marianne Collins (Castell) - Nodweddu Proteinau sy’n Ffurfio Mandyllau mewn Dwyhaenau Lipidau Artiffisial

Eleni, roedd y prosiectau'n cynnwys meysydd Darganfod Cyffuriau, Gwyddorau Fferyllol, Therapiwteg Arbrofol, ac Optimeiddio Meddyginiaethau a Deilliannau Gofal Iechyd. Mae myfyrwyr a staff yn edrych ymlaen yn fawr at y Diwrnod Poster bob blwyddyn. Mae’r digwyddiad yn galluogi myfyrwyr israddedig i ddangos perchenogaeth dros waith ymchwil ac yn rhoi cyfle i staff, myfyrwyr a gwesteion drafod materion ysgolheigaidd ar lefel mwy colegol.

Abbie Shaw
Abbie Shaw (Lane) – Oes modd hybu effeithiolrwydd therapi genynnol mewn modelau cnofilod 6-OHDA o glefyd Parkinson drwy ychwanegu cysylltydd 2A neu IRES?

Ymhlith y gwesteion eleni roedd Jamie Hayes, Cyfarwyddwr Canolfan Adnoddau Moddion Cymru, Sarah Hiom o Grŵp Llywio Ymchwil Fferylliaeth Cymru, Andrew Sully, Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Owain Brookes sy'n Fferyllydd Arennau yn Ysbyty Treforys, Kath Haynes a Robert Bracchi o Uned Cymorth Rhagnodi Dadansoddol Cymru, a Ken Wann, Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol Fferylliaeth.

Asthma
Alliyah Sajid (Ford) – Asesu rheoli asthma, ymlyniad a thechneg mewnanadlu

Roedd Ian Hill, Esther Howarth-Papp, ac Alan Meudell hefyd yn bresennol i ddyfarnu gwobr y gyfadran leyg. Sefydlwyd y gyfadran leyg i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth y cyhoedd o'r ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Fferylliaeth yn hygyrch ac yn glir i gynulleidfa ehangach.

Josana Hayes
Gwobr y Gyfadran Leyg: Josana Hayes (Coulman) – Gwerthuso dulliau profi a gyhoeddwyd sy’n cael eu defnyddio i fesur hyd a chryfder micronodwyddau. Dyma wobr am ragoriaeth o ran hygyrchedd cyhoeddus ond nid yw’n rhan o’r marc terfynol

Ar ôl asesu’r posteri, dyfarnwyd gwobrau i’r rhai gorau. Eleni, Marianne Collins, Josana Hayes, Alliyah Sajid ac Abbie Shaw oedd yr enillwyr.

Rhannu’r stori hon