Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraeth Namibia’n cydnabod gwaith Prosiect Phoenix

5 Mawrth 2019

VCs meeting
Yr Athro Kenneth Matengu; yr Athro Judith Hall; Dr Nangolo Mbumba; yr Athro Colin Riordan

Mae Llywodraeth Namibia wedi cydnabod Prosiect Phoenix y Brifysgol ar ôl iddo greu mwy na 38 o brosiectau cydweithredol yn y wlad.

Cwrddodd yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan ag Is-Lywydd Namibia ac aelodau uwch eraill Llywodraeth Namibia yn ystod ymweliad diweddar er mwyn atgyfnerthu’r bartneriaeth sy’n tyfu o hyd.

Dechreuodd y fenter gydweithredol, Prosiect Phoenix, rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM) yn 2014.

Mae effaith Prosiect Phoenix wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol a chlod gan Lywodraeth Namibia.

Ymwelodd yr Athro Riordan â Swyddfa’r Canghellor, sydd hefyd yn Is-Lywydd Namibia, HE Dr Nangolo Mbumba; Gweinidog Iechyd, Hon Dr Kalumbi Shangula; a’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol, Hon Netumbo Nandi-Ndaitwah.

Hefyd, cwrddodd â’i gynrychiolydd cyfatebol yn UNAM, yr Athro Kenneth Matengu.

Mae Prosiect Phoenix wedi cyflwyno manteision sylweddol i Gymru, gan fod staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ynghyd â gweithwyr proffesiynol o sectorau eraill, wedi manteisio’n llawn ar gyfleoedd i ddysgu a datblygu.

Mae gwaith y prosiect bellach yn cwmpasu mwy na 38 o weithgareddau unigol yn Namibia gan ganolbwyntio fwyfwy ar rai o heriau cenedlaethol Namibia.

Mae’r gweithgareddau pwysig newydd yn cynnwys:

  • Mur Gwyrdd Mawr Namibia: mynd i’r afael â diffeithdiro yn Namibia drwy ailgoedwigo brodorol.
  • Defnyddio ymchwil gwyddorau cymdeithasol i reoli tarddiant o Hepatitis E yn Namibia.
  • System cofnodi cleifion electronig i Namibia.
  • Cyflwyno Datblygiad Proffesiynol Parhaus i feddygon a nyrsys sy’n ymarfer yng ngogledd Namibia.
  • Pecyn Trawma Caerdydd, a gynhyrchir yn Namibia: achub bywydau ar y ffyrdd.
  • Hyfforddiant mewn ysgrifennu grantiau: addysgu academyddion sut i gael grantiau ymchwil rhyngwladol.

Mae llwyddiannau yn y gorffennol yn cynnwys:

  • Rhoi hyfforddiant arbenigol i feddygon, nyrsys a bydwragedd.
  • Hybu gwybodaeth fathemategol ymysg gwyddonwyr y dyfodol.
  • Cefnogi ieithoedd lleol.
  • Datblygu cymunedau o bobl sy'n frwdfrydig dros greu meddalwedd.
  • Achub bywydau ar ôl damweiniau ar y ffyrdd.
  • Codi dyheadau dysgwyr ifanc.
  • Gwella sgiliau astudio.
  • Hybu e-ddysgu.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau dynol.

“Effaith y prosiect sy’n adlewyrchu ei werth go iawn,” ddywedodd arweinydd Prosiect Phoenix yr Athro Judith Hall.

Mae Prosiect Phoenix yn gweithio’n agos ag UNAM ar amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys addysg, iechyd, cyfathrebiaeth a gwyddoniaeth. Mae’n cefnogi prosiect Llywodraeth Cymru, Cymru o blaid Affrica.

Rhannu’r stori hon

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yn gweithio ar ran pobl Namibia a Chymru.