Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid gwerthuso effaith digwyddiadau

28 Chwefror 2019

Amrywio dulliau o fesur a gwerthuso effaith digwyddiadau oedd ffocws gweithdy Effaith ac Ymgysylltu undydd diweddar a drefnwyd gan Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd (Mercher 6 Chwefror 2019).

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Dr Andrea Collins a'r Athro Max Munday (Uned Ymchwil Economi Cymru Ysgol Busnes Caerdydd), ac roedd yn edrych ar ffyrdd i wella a chyfoethogi gwerthusiadau effaith digwyddiadau. Er bod y ffocws ar ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, roedd y trafodaethau a'r ymchwil a gyflwynwyd yn berthnasol i bob digwyddiad a lwyfennir.

Er bod effaith economaidd yn aml yn cael ei ddefnyddio i fesur llwyddiant digwyddiad, cydnabu nifer o siaradwyr allweddol symudiad at fwy o integreiddio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i becyn mesur eventIMPACTs UK Sport. Fel yr eglurodd yr Athro Munday yn ei eiriau o groeso: "Mae gwerthuso digwyddiadau wedi dwysau ac nid yw bellach yn ymwneud â'r nifer yr ymwelwyr a maint y gwariant yn unig."

Image of male academic delivering powerpoint presentation
Yr Athro Max Munday, Ysgol Busnes Caerdydd

"Mae gwerthuso digwyddiadau wedi dwysau ac nid yw bellach yn ymwneud â'r nifer yr ymwelwyr a maint y gwariant yn unig."

Yr Athro Max Munday Director of Welsh Economy Research Unit

Clywodd y rheini oedd yn bresennol, oedd yn cynnwys trefnwyr digwyddiadau ledled Cymru, gan gydweithwyr academaidd, o’r llywodraeth ac ymarferwyr am heriau ac ystyriaethau arferion gwerthuso effaith digwyddiadau cyfredol, a methodolegau blaengar ar gyfer gwella.

Dadansoddiad amlddimensiwn

Y cyntaf i gyflwyno oedd Gwilym Evans, Pennaeth Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru. I Gwilym, roedd fframwaith gwerthuso cadarn yn hanfodol er mwyn rhoi dadansoddiad cywir a chynhwysfawr i Weinidogion o effaith digwyddiadau oedd yn defnyddio llawer o adnoddau. Roedd hefyd yn allweddol i fynd i'r afael â gwerth chwyddedig digwyddiadau a llywio strategaeth digwyddiadau'r dyfodol. Pwysleisiodd fod llwyddiant yn fwy nag enillion ariannol a bod angen i ddigwyddiadau ddangos eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Llywodraeth, yn cynrychioli lledaeniad daearyddol ar draws Cymru, ac yn bwysig, eu bod yn gynaliadwy.

Gan ymgymryd â thema dadansoddi cryfach ac amlddimensiwn ar gyfer digwyddiadau, dadl Lucy Crickmore, Uwch Ymgynghorydd yn UK Sport oedd bod ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys llesiant/budd ffisegol a meddyliol cymunedol, yn ennill tir. Eglurodd Lucy EventIMPACTS, pecyn cymorth ar-lein am ddim sy'n helpu trefnwyr i asesu a gwerthuso eu digwyddiadau gyda phum maen prawf: economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, presenoldeb a chyfryngau.

Image of male presenting in front of powerpoint screen
Gwilym Evans, Llywodraeth Cymru

Mwy nag arian

Ymunodd cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Dr Annette Roberts a Dr Nicole Koenig-Lewis, â Dr Collins i gyflwyno eu hymchwil diweddar i effaith a gwerth digwyddiadau.

Holodd Dr Roberts pam ein bod yn mesur effaith economaidd gan esbonio ei fod yn deillio'n aml o awydd i ganfod manteision digwyddiadau, yn ogystal â chyfiawnhau bod gwerthuso digwyddiadau'n economaidd yn aml yn cael ei weld yn stori dda, ac yn creu swyddi a ffrydiau incwm na fyddai o reidrwydd yn bodoli fel arall.

Cyflwynodd Dr Roberts astudiaeth achos ar effaith economaidd dyrchafu clwb pêl-droed Dinas Abertawe i'r Uwch Gynghrair a'i galluogodd i ddarlunio rhai o'r heriau a wynebwyd wrth ddadansoddi ac amcangyfrif gwerth economaidd a pha mor bwysig yw hi i ymchwilwyr graffu'r elfennau newidiol i osgoi gogwyddo'r canlyniadau terfynol.

Image of female academic, Dr Andrea Collins, delivering powerpoint presentation
Dr Andrea Collins

Cadarnhaodd Dr Collins farn y siaradwyr blaenorol bod gwerthuso digwyddiadau'n ehangu y tu hwnt i'r elfen economaidd a dadleuodd mai'r cwestiwn allweddol yw sut ydym ni'n deall, cyfrif a chymharu'r effeithiau amgylcheddol yn well. Gan ddefnyddio tair astudiaeth achos o ddigwyddiadau mawr (rownd derfynol Cwpan yr FA, gem rygbi Chwe Gwlad, a Grande Depart y Tour de France), dangosodd Dr Collins yr effaith amgylcheddol fesul digwyddiad a fesul ymwelydd. I wneud hyn, cyfrifodd ôl troed ecolegol y digwyddiadau a'u cymharu â'u heffeithiau economaidd. Roedd cydberthynas gref rhwng gwariant ymwelwyr yn y digwyddiadau hyn a'u heffaith amgylcheddol. Anogodd Dr Collins wneuthurwyr polisi, hyrwyddwyr a threfnwyr i ystyried 'costau' amgylcheddol a datblygu strategaethau effeithiol i leihau'r effeithiau negyddol gan ddangos sut roedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Hanner Marathon Caerdydd wedi lleihau eu heffeithiau teithio yn 2018.

"Bydd ein gallu i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol yn penderfynu dyfodol digwyddiadau - ble, pryd, sut a beth rydym ni'n ei gynnal."

Dr Andrea Collins Senior Lecturer

Gwaddol

Aeth Dr Koenig-Lewis ar drywydd ychydig yn wahanol yn ei chyflwyniad gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru, gyda dadansoddiad o wraidd profiad a boddhad ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a 2018.

Roedd ei hastudiaeth yn ceisio deall effaith y digwyddiad o ran teyrngarwch ymwelwyr a gwaddol a rôl y canfyddiad o ddilysrwydd yn ansawdd eu profiadau neu eu hawydd i ddychwelyd.

Dywedodd: "Canfu ein hymchwil fod canfyddiad o ddilysrwydd gŵyl yn arwain at foddhad uwch ac emosiynau mwy cadarnhaol. Ond er bod boddhad ac emosiynau'n bwysig ar gyfer teyrngarwch gŵyl, roedd y prif sbardun ar gyfer effaith gymdeithasol ehangach a gwaddol yr ŵyl yn gysylltiedig â dilysrwydd."

Image of female academic, Dr Nicole Koenig-Lewis, delivering powerpoint presentation
Dr Nicole Koenig-Lewis

Trafododd Dr Richard Coleman a Dr Girish Ramchandani o Brifysgol Sheffield Hallam hefyd faterion ynghylch presenoldeb ac ysbrydoliaeth digwyddiadau, yn benodol gwaddol cyfranogi. Mewn nifer o astudiaethau, edrychon nhw ar newid agwedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau chwaraeon sy’n ysbrydoli (fel digwyddiadau prawf Olympaidd) gan holi pwy sy'n cael eu hysbrydoli, sut mae hynny'n ymddangos yn y gweithgaredd a hirhoedledd neu gynaladwyedd y gweithgaredd hwnnw. Dangosodd yr ymchwil fod digwyddiadau chwaraeon mawr yn gallu ysbrydoli pobl i fod yn fwy gweithredol ond bod yr ysbrydoliaeth yn amrywio yn ôl demograffeg (e.e. oed) a fesul digwyddiad. Er bod presenoldeb mewn digwyddiadau chwaraeon mawr yn gallu arwain at gynnydd mewn cyfranogiad, mae newid ymddygiadol cadarnhaol yn dal i fod ar ei gryfaf ymhlith cyfranogwyr cyfredol.

Mae Dr Collins a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu Achos Effaith ar 'Drawsnewid gwerthuso effaith digwyddiadau' yn seiliedig ar eu hymchwil a'u cydweithio gyda UK Sport, Llywodraeth Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Run4Wales.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.