Ewch i’r prif gynnwys

Fforwm Ieuenctid Grangetown yn camu i'r brifysgol

25 Chwefror 2019

Step Up
Step up to university event welcome

Ymunodd pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Grangetown dros 700 o ddisgyblion uwchradd ar raglen boblogaidd a llwyddiannus Camu i Fynu i’r Brifysgol, a drefnwyd gan y Tîm Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad.

Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl ifanc brofi bywyd prifysgol, meithrin dealltwriaeth o'r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael yn ogystal â'r hyder a'r ymrwymiad i'w weld trwy gyfnod y Safon Uwch o'u hastudiaethau.

Mae'r rhaglen yn rhan greiddiol o'n rhaglen Ehangu Mynediad ac mae'n datblygu perthynas tair blynedd gyda disgyblion o ysgolion lle bu graddfa isel o ddilyniant i'r brifysgol.

Daeth Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol, ynghyd â deg o bobl ifanc i lansiad Camu i Fynu i’r Brifysgol a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac roedd yn hapus iawn pa mor dda y trefnwyd y noson gan dîm Prifysgol Caerdydd.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Ali:

"Rwy'n hynod falch o ddod â phobl ifanc o Grangetown sydd wedi ymgysylltu â'n prosiect Porth Cymunedol i noson wych ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n rhoi cipolwg go iawn iddynt o fywyd prifysgol. Mae cynlluniau fel Camu i Fynu i’r Brifysgol yn codi dyheadau a chyrhaeddiad ac yn darparu cefnogaeth bwysig i ddisgyblion. Roedd pob un o'n pobl ifanc wedi mwynhau'r digwyddiad a’r croeso cynnes gan y Brifysgol - rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddilyn eu taith drwy'r broses Camu i fyny."

Dywedodd Scott McKenzie, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad sy'n gyfrifol am Raglen Camu i Fynu i’r Brifysgol ac am threfnu'r digwyddiad:

"Neithiwr, lansiwyd ein cynllun Camu i Fyny newydd gyda 700 o bobl o Ranbarth Cyfalaf Caerdydd yn dod i Brifysgol Caerdydd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr academaidd. Mae'n wych bod yn gweithio'n agosach gyda phrosiect Porth Cymunedol a diolch i Ali Abdi am ddod ynghyd â phobl ifanc o Grangetown!"

Darganfyddwch fwy am raglen Camu i Fynu i’r Brifysgol

Rhannu’r stori hon