Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebu yn dod yn elfennol gyda SHERLOCK digidol

1 Hydref 2015

Smart watch on wrist

Gwyddonwyr cyfrifiadurol Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â chwmni meddalwedd pwysig i greu cynorthwy-ydd digidol newydd

Mae gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio cynorthwy-ydd digidol newydd y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl mewn pob math o sefyllfaoedd, o argyfyngau i wyliau.

Mae'r tîm wedi creu cynorthwyydd digidol o'r enw SHERLOCK (Simple Human Experiment Regarding Locally Observed Collective Knowledge), sy'n gweithio ar ffonau clyfar a llechi, fel Siri gan Apple neu Cortana Microsoft, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau a chael ateb cyflym. 

Ond mae SHERLOCK yn mynd gam ymhellach gan ddefnyddio "iaith naturiol wedi'i rheoli" sy'n sicrhau bod y feddalwedd a'i defnyddwyr yn deall ei gilydd, gan alluogi SHERLOCK i weithredu'n gadarn ar y wybodaeth a roddir iddo.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynorthwywyr digidol, gall defnyddwyr ddweud pethau wrth SHERLOCK, a gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddywedir wrtho - ynghyd â phethau y mae defnyddwyr eraill yn ei ddweud wrtho - i adeiladu "sylfaen wybodaeth leol", gan ei alluogi i ganfod gwybodaeth newydd a gweithredu. 

Mae ymchwilwyr yn dweud y gellir defnyddio SHERLOCK, felly, i helpu pobl i gyfathrebu'n fwy effeithiol â systemau cyfrifiadurol nag erioed o'r blaen. Er enghraifft, mewn cartref 'clyfar', gallech ddweud wrtho, "Dwi'n teimlo'n oer", a gallai addasu'r gwres neu awgrymu cau ffenestri.

Yn yr un modd, gellir hefyd ei ddefnyddio i gasglu a phrosesu 'gwybodaeth dorfol'. Er enghraifft, mewn gŵyl, gallai helpu pobl i gael gwybod ble mae'r mannau bwyd prysuraf neu dawelaf, neu mewn argyfwng, gallai helpu timau meddygol – neu hyd yn oed 'ddrôn' awyr – i ddod o hyd i bobl y mae angen cymorth arnynt, ar sail gwybodaeth gan lygad-dystion. 

Eglurodd yr Athro Alun Preece o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Mae pobl yn hoffi cyfathrebu â chyfrifiaduron drwy ddefnyddio ieithoedd naturiol fel Saesneg. Mae cyfrifiaduron yn cael trafferth deall a phrosesu iaith o'r fath". 

"Felly, gellir defnyddio SHERLOCK i helpu pobl i gyfathrebu'n fwy effeithiol â systemau cyfrifiadurol."

"Rydym yn credu ein bod yn unigryw wrth roi technoleg Iaith Naturiol wedi'i Rheoli yn llythrennol yn nwylo pobl - a gydag ap Oriawr Apple, ar eu harddyrnau - gyda'r nod o alluogi gwell dealltwriaeth a chydweithredu rhwng peiriannau a phobl."

Cafodd teuluoedd y cyfle i weld SHERLOCK ar waith yn ddiweddar pan ddangosodd yr Athro Preece y dechnoleg newydd yn nigwyddiad Make It Digital y BBC yng Nghaerdydd. Esboniodd y syniadau ymchwil y tu ôl i SHERLOCK a gwahoddodd y gynulleidfa i gymryd rhan mewn gêm gwybodaeth dorfol drwy ddefnyddio eu ffonau clyfar. 

Mae ap SHERLOCK ar gyfer Oriawr Apple hefyd wedi'i lansio am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Maryland, College Park, UDA, yn ddiweddar. Dangosodd yr Athro Preece yr ap ar waith drwy ddefnyddio argyfwng ffug lle gall pobl sydd ar batrôl ddefnyddio oriorau 'clyfar' i roi gwybodaeth i SHERLOCK, a'i alluogi i helpu i amddiffyn y cyhoedd yn ystod argyfwng.

Rhannu’r stori hon