Ewch i’r prif gynnwys

Mae Cronfa Ymchwil Canser y Pancreas yn cefnogi ymchwil ar gyfer triniaethau gwell i ganser y pancreas

19 Chwefror 2019

Dr Richard Clarkson and PhD Student, Anna, in the Institute Lab

Mae dros £130,000 wedi’i roi i ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd i ariannu ymchwil arloesol i dargedu canser y pancreas.

Mae dros 80% o diwmorau y pancreas yn rhannu nam yn eu gallu arferol i ladd celloedd canser, gan alluogi tiwmor i dyfu. Mae cyllid gan Gronfa Ymchwil Canser y Pancreas yn galluogi ymchwilwyr i dargedu’r nam hwn er mwyn datblygu triniaethau canser mwy effeithiol.

Dywedodd Dr Richard Clarkson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd: “I gynnal meinwe iach, caiff celloedd eu monitro ar gyfer annormaleddau a chaiff celloedd canser eu tynnu o’r meinwe.

“Gyda chanser y pancreas, rydym yn gallu gweld nad yw’r mecanweithiau a fyddai fel arfer yn lladd y celloedd canser yn gweithio’n iawn, gan alluogi celloedd canser i fodoli yn y meinwe a datblygu i fod yn diwmorau.

“Mae gennym ddiddordeb yn sut y mae’r ymateb, sydd fel arfer yn amddiffynnol, yn gallu arwain yn y pen draw at dyfiant y tiwmor yng nghanser y pancreas, o ganlyniad i bresenoldeb protein a elwir yn c-FLIP.

“Mae c-FLIP yn rhwystro gallu cell y pancreas i sbarduno marwolaeth y gell pan mae’n troi’n ganseraidd.

“Rydym wedi dangos, drwy atal gweithgarwch c-FLIP mewn tiwmorau, y gallwn adfer y broses o ddinistrio celloedd canseraidd yn llawn.

Bydd cyllid o £131,897 gan Gronfa Ymchwil Canser y Pancreas yn galluogi ymchwilwyr yn y Sefydliad i greu modelau o ganser y pancreas a phrofi dull therapiwtig newydd ar gyfer y clefyd marwol.

Dywedodd Dr Catherine Hogan, o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, “Byddwn yn defnyddio modelau o ganser y pancreas i archwilio p’un a fydd cael gwared ar c-FLIP yn llwybr triniaeth posibl yn y dyfodol, naill ai drwy dargedu tiwmorau yn y pancreas yn uniongyrchol, neu atal lledaeniad y tiwmor drwy’r corff.

“Bydd yr ymchwil cydweithredol yn ein galluogi i brofi cyfrwng gwrth-ganser newydd sy’n cael ei ddatblygu yn y Sefydliad, a fydd yn ein cymryd gam yn nes at gael triniaethau gwell ar gyfer canser y pancreas.”

Rhannu’r stori hon