Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd yn ohebydd crwydrol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd

1 Hydref 2015

Professor Angela Devereux
Professor Angela Devereux

Athro'r Gyfraith o'r Brifysgol yn gwirfoddoli i fod yn rhan o 'The Pack'

Wrth i weddill y genedl fwynhau Cwpan Rygbi'r Byd o gysur eu cartrefi, mae Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi mynd gam ymhellach drwy wirfoddoli fel gohebydd crwydrol yn ystod y digwyddiad a gynhelir fis Medi a mis Hydref.

Mae'r Athro Angela Devereux, Pennaeth y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, yn gefnogwr rygbi brwd, felly pan welodd hysbyseb gan Undeb Rygbi Lloegr y llynedd yn gwahodd pobl i fod yn rhan o The Pack, sef yr enw a roddir ar y tîm gwirfoddoli, gwnaeth gais yn syth.

Meddai, "Rwy'n 60 fis nesaf, felly roeddwn am wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol. Llenwais ffurflen yn nodi fy sgiliau a fy mhrofiad, a dywedais fy mod yn hapus i wneud unrhyw swydd a oedd yn addas ar fy nghyfer yn eu barn nhw.

"Cefais fy ngwahodd i gyfweliad yn Stadiwm y Mileniwm fis Awst diwethaf, ac ym mis Ionawr, cefais ebost yn dweud fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o The Pack. Roedd hyn yn dipyn o gamp, oherwydd dim ond 6,000 o ymgeiswyr o'r 20,000 gwreiddiol gyrhaeddodd y cam hwn.

"Dywedwyd wrthyf y byddwn yn ohebydd a fyddai'n gofyn am ddyfyniadau cyflym; yn cyfweld â chwaraewyr a hyfforddwyr mewn cynadleddau i'r wasg ac yn y Parth Cymysg (Mixed Zone) ar ôl y gêm, gan ffeilio'r dyfyniadau ar safle gwasanaeth newyddion - Rugby News Service - sydd ar gael i'r holl gyfryngau achrededig."

Cyn iddi ymwneud â'r gyfraith a'r byd academaidd, gweithiodd Angela fel newyddiadurwr yn Lloegr a Paris, felly roedd ei rôl wirfoddol yn gwireddu breuddwyd.

Ers i Gwpan Rygbi'r Byd ddechrau, mae Angela wedi gweithio ar dair gêm yng Nghaerdydd hyd yma: Iwerddon vs Canada, Cymru vs Uruguay a Fiji vs Awstralia.

Ar ddiwrnod gêm, mae'n eistedd ar lwyfan y wasg, ac yn cyfweld â chwaraewyr allweddol ar ôl y gêm wrth iddynt fynd o'r ystafell newid i fws y tîm.

"Mae bod yn rhan o bencampwriaeth o'r fath yn gymaint o hwyl, ac rwy'n teimlo fy mod yn cael profiad nad yw'r rhan fwyaf yn ei gael - fel gwylio cyn-gapten tîm Canada yn cyrraedd y stadiwm gydag elc mawr meddal o dan ei fraich, neu gyfarfod â thîm hyfryd Uruguay." 

"Y peth anoddaf hyd yma oedd dysgu enwau tîm Fiji a gorfod teipio'n gyflym iawn, sy'n anodd pan rydych yn nerfus!"

Cynhelir gweddill y gystadleuaeth tan 31 Hydref 2015. I gael gwybod am y gemau sydd yng Nghaerdydd, ewch i wefan Cwpan Rygbi'r Byd.

Rhannu’r stori hon