Ewch i’r prif gynnwys

Nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

13 Chwefror 2019

International Women and Girls in Science Day event

Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth y Cenhedloedd Unedig (UN) gyda chyfres o gyflwyniadau gan fenywod sy’n weithgar ym maes gwyddoniaeth.

Cynhaliodd yr Ysgol gyfres o gyflwyniadau byr a roddwyd gan wyddonwyr benywaidd o ystod o feysydd gwyddonol a lefelau gyrfa ar 11 Chwefror 2019. Roedd siaradwyr yn cynnwys gwyddonwyr benywaidd sy’n gweithio mewn ymchwil a diwydiant, myfyrwyr PhD presennol a chynfyfyrwyr o’r Ysgol, yn ogystal â Leslie Fitzpatrick (CEO, Techniquest) a roddodd gyflwyniad byr ar yr ymgysylltu parhaus â phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yng Nghymru.

Roedd y cyflwyniadau'n cynnwys sut daeth y gwyddonwyr yn angerddol am y pwnc, eu rhesymau dros ei astudio ymhellach, pa fath o waith maent yn ei wneud nawr, sut maent wedi symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, a pha gyngor byddent yn ei roi i fenywod sydd â diddordeb mewn astudio neu weithio ym maes gwyddoniaeth.

Dywedodd Rhoda Ballinger, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol: “Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn gyfle gwych i rannu profiadau gwaith gwyddonwyr benywaidd, ysbrydoli ac annog ein myfyrwyr benywaidd i ddilyn eu diddordebau ac anelu am yrfa mewn gwyddoniaeth.”

Rhestr o siaradwyr

Sarah Gore a Kate Abernathy (myfyrwyr PhD presennol; Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd)

Christine Nelson (BSc Daearyddiaeth Forol; Prif Archwilydd, Associated British Ports, Caerdydd)

Melanie Cox (BSc; Ymgynghorydd Geocemeg, SRK Consulting)

Marie Ekstrom (PhD; Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd)

Rosie Gornall (MSc; Daearegwr Peirianneg, Mott MacDonald

Leslie Fitzpatrick (CEO, Techniquest)

Rhannu’r stori hon