Ewch i’r prif gynnwys

Arwain y chwilio am supernovae a nodweddion byrhoedlog anghyffredin

8 Chwefror 2019

Image of telescope array
Image courtesy of ESO.

Dyfarnwyd i Dr Cosimo Inserra, sy’n ddiweddar wedi derbyn swydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, arolwg seryddol hirdymor gydag Arsyllfa Ddeheuol Ewrop (ESO) er mwyn monitro’r awyr am supernovae a nodweddion byrhoedlog anghyffredin.

Nodweddion byrhoedlog yw gwrthrychau neu ffenomena seryddol a all barhau am ddyddiau, wythnosau neu flynyddoedd, yn hytrach na sêr a galaethau, sy’n ymffurfio dros filiynau o flynyddoedd.  Maen nhw’n aml yn ddigwyddiadau ffyrnig, ac yn cynnwys supernovae, ffrwydriadau pelydrau gamma, digwyddiadau amharu ar y llanw, a ffynonellau tonnau disgyrchiant.  Fwyfwy, mae’r digwyddiadau hyn yn helpu astroffisegwyr i ddeall sut ffurfiwyd y bydysawd.

Bydd Dr Inserra yn un o 196 o seryddwyr ar draws y byd sy’n gweithio ar brosiect ePESSTO+ dros gyfnod cychwynnol o ddeunaw mis. Mae’r arolwg yn parhau â gwaith PESSTO ac ePESSTO, sef yr arolwg sbectrosgopig mwyaf yn Ewrop ym maes seryddiaeth parthau amser.

Daeth prosiect PESSTO/ePESSTO, dan arweiniad yr Athro Stephen Smartt o Brifysgol y Frenhines, Belffast, â’r gymuned o ymchwilwyr ESO oedd yn gweithio ar supernovae a nodweddion byrhoedlog anghyffredin ynghyd i greu un tîm unedig.  Buon nhw’n monitro’r wybren am sawl noson i ddarparu setiau data hanesyddol ar gyfer cyfatebydd electromagnetig tonnau disgyrchiant, y supernovae â’r lefel isaf o fetel, supernovae mewn lleoliadau pellennig, a supernovae hirhoedlog na ellir eu hesbonio trwy ffrwydriadau a achoswyd gan niwtrino.  Bu iddynt ddatgelu amrywiaeth hefyd yn y supernovae mwyaf llachar.

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, cynlluniau ePESSTO+ yw ehangu’r ffocws gwyddonol i gynnwys ffynonellau tonnau disgyrchiant, nodweddion byrhoedlog sy’n esblygu o fewn ychydig ddyddiau, a rhai sydd ag elfennau egnïol eithafol. Byddant yn canolbwyntio ar y poblogaethau byrhoedlog newydd mwyaf cyffrous sy’n cael eu darganfod bellach mewn arolygon wybren gyfan megis Zwicky Transient Facility, Gaia ac ATLAS. Mae’r llif presennol o nodweddion byrhoedlog a ddarperir gan yr arolygon hyn yn galw am gamau dilynol sbectrosgopig mawr, y mae cymuned ESO, yn sgîl gwaith ePESSTO+, mewn sefyllfa dda i’w harwain.

Dyma ddywedodd Dr Inserra, sy’n arwain yr arolwg: “Mae hwn yn gyflawniad cyffrous dros ben i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a’r tîm o wyddonwyr dan sylw.  Ychydig iawn o arolygon ESO sy’n parhau ac mae’r dyfarniad yn dangos rôl arweiniol Prifysgol Caerdydd ym maes seryddiaeth parthau amser.  Rydym ni’n gobeithio y bydd y setiau data a gynhyrchir o’n harolwg yn helpu i lywio’r gwaith ymchwil sydd ar waith ym meysydd seryddiaeth a ffiseg disgyrchiant, nid yng Nghaerdydd yn unig, ond ar draws y byd.”

Yn ei rôl newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd Dr Inserra yn gweithio yn y Grwp Ymchwil Seryddiaeth a’r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant i hwyluso ymchwil croestoriadol o fewn yr Ysgol.

Rhannu’r stori hon