Ewch i’r prif gynnwys

Llewpard cymylog Sunda dan fygythiad o ganlyniad i chwalu cynefinoedd

7 Chwefror 2019

Clouded leopard and team

Mae llewpard cymylog Sunda yn Sabah, Malaysia, dan fygythiad o ganlyniad i chwalu cynefinoedd a diffyg cysylltedd coedwigoedd, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang.

Mewn cydweithrediad â WildCRU Prifysgol Rhydychen, Gwasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau (UDA), ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah, defnyddiodd y tîm gyfuniad o ddata gwaith maes a modelu efelychu i fapio patrymau cysylltedd poblogaeth ar gyfer rhywogaeth y llewpard cymylog ar draws Sabah. Daeth i’r amlwg iddynt y gallai darnau coediog ynysig ac ardaloedd sydd â llai o goed atal llewpardiaid cymylog unigol rhag gwasgaru a chyfyngu ar lif y genynnau. Gallai hyn yn ei dro beryglu dyfodol hirdymor y rhywogaeth.

Dywedodd Dr Andrew Hearn, o WildCRU, a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae Sabah yn gadarnle ar gyfer llewpard cymylog Sunda yn Borneo, ond mae dwysedd poblogaeth yr anifail hwn na welir yn aml yn isel iawn, gyda chyn lleied â 1-5 o anifeiliaid ym mhob 100 cilomedr sgwâr o goedwig. Mae prinder o'r fath, ynghyd â'r ffaith bod y goedwig sy’n gartref iddynt yn crebachu ac yn dod yn fwyfwy ynysig, yn effeithio’n negyddol ar y cathod hyfryd hyn. Bydd unigedd y boblogaeth yn eu hatal rhag magu gan fod anifeiliaid unigol yn cael trafferth gwasgaru ar draws y tirwedd.”

Ychwanegodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fe wnaethom fapio patrymau cysylltedd poblogaeth ar gyfer y rhywogaeth ar draws Sabah a daethom i'r casgliad bod nifer o ddarnau o goedwigoedd lle gall poblogaeth y llewpard cymylog gael eu hynysu. Bydd hyn, yn ei dro, yn peryglu gwasgariad llewpardiaid ac yn cyfyngu ar lif y genynnau.

"Fe wnaethom hefyd nodi bod Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf, Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Tabin a Pharc Tawau Hills yn gynefinoedd lle rhagwelir bod poblogaethau o lewpardiaid cymylog wedi’u hynysu o boblogaethau eraill. O ystyried hyn, rydym yn argymell eu bod yn edrych ar ddulliau i gynyddu'r cysylltedd rhwng yr ardaloedd hyn a'r prif goedwig ganolog, megis sefydlu coridorau ar lannau’r afon, a dynodi a/neu greu ardaloedd coedwigoedd Gwerth Cadwraeth Uchel o fewn tirweddau planhigfeydd.

"Cafodd yr argymhellion hyn eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Sabah ar gyfer llewpard cymylog Sunda. Rydym yn gobeithio ei weld yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet Gwladol.”

Ychwanegodd yr Athro David Macdonald, Cyfarwyddwr y WildCRU, "Roedd y gwaith hwn yn cynnwys gwaith maes heriol a dadansoddiadau cain ac mae'n gam pwysig tuag at ddeall un o'r cathod gwyllt mwyaf prydferth ond lleiaf adnabyddus yn y byd."

Rhannu’r stori hon

Edrychwch ar y dewisiadau astudio gan gynnwys cyrsiau maes, cyrsiau ôl-raddedig neu flwyddyn hyfforddiant proffesiynol.