Ewch i’r prif gynnwys

Is-Ganghellor am fynd i’r afael â phum problem fawr y byd

29 Medi 2015

VC on stage with URI launch banners

Prifysgol Caerdydd yn lansio pum sefydliad ymchwil blaenllaw newydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn adfywio ei hymrwymiad i ddatrys rhai o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu dynoliaeth drwy sefydlu pum Sefydliad Ymchwil blaenllaw newydd.

Nod y sefydliadau sydd newydd ei lansio fydd datblygu ffyrdd o wella clefydau cronig mawr, lleihau troseddu a chynyddu diogelwch, defnyddio 'Data Mawr' i fynd i'r afael â phroblemau go iawn y byd, datblygu dulliau callach o ddefnyddio dŵr yng nghanol prinder cynyddol byd-eang, a chefnogi’r broses o ddatblygu systemau ynni doethach.

Bydd arbenigwyr sy'n arwain y byd o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn rhannu eu harbenigedd er mwyn datblygu atebion newydd ac arloesol i faterion byd anhydrin sy’n cael effaith barhaus. Yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr presennol, bydd y sefydliadau yn gwasanaethu i ddenu’r dalent ryngwladol orau i Gaerdydd.

Drwy sefydlu’r rhain, bydd y nifer o Sefydliadau Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn mwy na dyblu, gan ddod â’r nifer i gyfanswm o naw – daeth y pedwar cyntaf yn weithredol yn 2011. Yn y pedair blynedd ers eu sefydlu, mae’r sefydliadau ymchwil gwreiddiol wedi cymryd camau breision yn eu priod feysydd.

Er enghraifft, mae ymchwilwyr sy’n gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) yn y ddwy flynedd diwethaf yn unig wedi datblygu dau gyffur arbrofol sy’n atal canser gan ddefnyddio techneg modelu newydd drwy gymorth cyfrifiadur - sydd bellach wedi'i thrwyddedu gan gwmni fferyllol yn y DU gyda’r bwriad o dreialu’r cyffur ar bobl

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y broses o ddarganfod pan gaiff ei ddefnyddio fel catalydd, bod gan aur y potensial i achub bywydau, gwella iechyd a glanhau’r amgylchedd.

Mae eu cymheiriaid yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) yn parhau i adeiladu ar y darganfyddiad o 21 o enynnau a oedd yn gysylltiedig â chlefyd Alzheimer a mwy na 100 offactorau risg genetig sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia, tra bod y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy yn parhau i ddatblygu dulliau gwyddonol newydd o fyw'n fwy cynaliadwy.

Bydd y sefydliadau newydd – gan gynnwys 'y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data’, ‘y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’, ‘y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch’ a’r ‘Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni’ - yn hollbwysig yn y gwaith o adeiladu ar lwyddiant Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 a gododd Caerdydd i’r 5ed safle yn y DU am ansawdd ei hymchwil, ac i’r 2il safle am effaith.

Yn ogystal, y gobaith yw y bydd y gweithgareddau ymchwil newydd hyn yn helpu i ddatblygu nod strategol y Brifysgol o dorri drwodd i’r 100 uchaf yn y QS World University Rankings erbyn 2017.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym am i’n sefydliadau newydd anfon neges glir bod gennym y màs critigol a’r rhagoriaeth academaidd i wneud gwahaniaeth i broblemau mawr sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn y meysydd hyn, rydym yn bwriadu arwain y byd.

"Yn yr amser byr ers i’r sefydliadau gwreiddiol gael eu sefydlu yn 2011, mae eu gwaith arloesol mewn meysydd sy'n amrywio o ddarganfod cyffuriau i glefydau niwrolegol eisoes wedi dangos cryfderau a bwriadau Caerdydd fel Prifysgol fyd-eang.

"Mae'n bwysig bod ein gwaith ymchwil yn parhau i gynnig atebion i’r heriau mwyaf sy'n bygwth ein dyfodol, ac rwyf yn hyderus y gallwn lwyddo, drwy ganolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd newydd hyn."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC: "Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes cryf o wneud gwaith ymchwil o'r radd flaenaf sy’n cael effaith gymdeithasol ac economaidd, ac sy’n gwneud cyfraniad cryf at uchelgais Llywodraeth Cymru i gael sail gwyddoniaeth gryfach.

“Bydd y sefydliadau ymchwil newydd hyn yn dod ag academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â’r heriau sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd.”

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ac Athro Prifysgol Caerdydd, Julie Williams: "Dangosodd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod ymchwilwyr yng Nghymru ymysg y gorau yn y DU a'r byd. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan amlwg yn hynny, oherwydd, yn yr un adolygiad, roedd ymysg y pum Prifysgol orau ar gyfer ymchwil a rhagoriaeth, ac yn ail yn y DU am effaith.

"Bydd y sefydliadau ymchwil blaenllaw hyn yn sicrhau bod rhagoriaeth mewn gwaith ymchwil yn cael ei throi'n atebion newydd i rai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw."

Cynhelir digwyddiad lansio yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 29 Medi (6pm-8pm) i gyflwyno’r sefydliadau ymchwil blaenllaw newydd.