Ewch i’r prif gynnwys

Cael gwared ar archfygiau heb greu ymwrthedd

5 Chwefror 2019

Superbugs 2

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhan o dîm rhyngwladol a gafodd hyd at £1.8m i ddatblygu cyffuriau sy'n gallu atal, rheoli a chael gwared ar archfygiau heb greu ymwrthedd.

Bydd ymchwilwyr Caerdydd yn gweithio ar y cyd â Destiny Pharma a Phrifysgol Feddygol Tianjin yn Tsieina.

Bydd y prosiect, a fydd yn parhau am gyfnod o ddwy flynedd, yn datblygu cyfansoddion newydd a grëwyd gan Destiny Pharma ac yn eu cyfuno â gwrthfiotigau sydd eisoes yn bodoli i gyfuno a/neu adfer eu heffeithiolrwydd yn erbyn bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Bydd y data a gynhyrchir yn helpu i ddatblygu meddyginiaethau sy'n mynd i'r afael â thyfiant ymwrthedd bacteriol, naill ai fel un cyffur, neu adfer effeithiolrwydd gwrthfiotigau aneffeithiol trwy therapi cyfunol.

Dywedodd yr Athro David Williams o'r Ysgol Deintyddiaeth, a fydd yn arwain tîm Caerdydd: "Mae'r ymwrthedd gwrthficrobaidd sydd wedi ymddangos yn eang yn y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at yr angen am asiantau gwrthficrobaidd amgen ac effeithiol. Rydym yn teimlo, felly, bod y llwyfan cyffuriau XF o Destiny Pharma yn ychwanegu offer amserol a sylweddol at ein hadnoddau yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd."

Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect o gronfa AMR Tsieina a'r DU a sefydlwyd gan Innovate a'r Adran Iechyd, mewn cydweithrediad â Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina.

Meddai Neil Clark, Prif Weithredwr Destiny Pharma: "Bydd yr arian a ddyfarnwyd o dan y fenter gydweithredol newydd hon rhwng y DU a Tsieina, yn helpu i archwilio ein llwyfan cyffuriau XF ymhellach gyda thimau arbenigol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Tianjin.

"Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ba mor ddefnyddiol yw ein platfform cyffuriau XF yn enwedig wrth drin heintiau geneuol ac ocwlar. Efallai y bydd y cydweithio hwn yn ein helpu i nodi atebion clinigol eraill sy'n ddiogel, yn effeithiol a gyda lefel o wrthwynebiad gwrthficrobaidd sydd gryn dipyn yn llai."

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw unig ysgol ddeintyddiaeth Cymru, sy’n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion.