Ewch i’r prif gynnwys

Assemblage Thought and Archaeology

5 Chwefror 2019

Darlithydd Archaeoleg yn trafod y tueddiadau diweddaraf mewn damcaniaeth archeolegol mewn cyfrol newydd

Yn ei gyfrol ddiweddaraf Assemblage Thought and Archaeology maeDr Ben Jervis yn trafod ffyrdd newydd o archwilio arteffactau, tirweddau ac arferion archeolegol drwy gymhwyso cysyniad 'cydosodiadau'. Mae'r ymagwedd hon yn edrych ar y gorffennol drwy osod pwyslais ar wahaniaeth ac anrhagweladwyedd, yn hytrach na thebygrwydd a chydbwysedd neu stasis, ac mae wedi'i hysbrydoli gan athronwyr mawr yr ugeinfed ganrif, Gilles Deleuze a Felix Guattari.

Gan weithio o fewn cyd-destun y 'tro materol' ehangach a datblygiad ymagweddau materolaidd newydd ar draws y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, mae'r gyfrol yn gosod ffocws penodol ar oblygiadau meddwl cydosod ar gyfer astudio diwylliant materol ac aneddiadau trefol, ac yn archwilio ei effaith ar ymarfer ymchwil archeolegol a rheoli treftadaeth.

Mae'n archwilio'r themâu hyn yn fanwl, gan gymhwyso'r syniad o gydosod i astudiaethau achos archeolegol penodol, yn amrywio o drefolaeth gynnar ym Mesopotamia i amddiffynfeydd milwrol y 19eg ganrif.

Mae'r llyfr yn arbennig o berthnasol i'r rheini sydd â diddordeb yn y tueddiadau diweddaraf o ran damcaniaeth archaeolegol sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant materol, archaeoleg aneddiadau ac ymarfer archaeolegol.

"Mae meddwl cydosod, ac ymagweddau'n canolbwyntio ar y materol yn gyffredinol, yn dod yn fwyfwy cyffredin mewn archaeoleg ac mae iddo botensial mawr ar gyfer trafod y gorffennol mewn ffyrdd newydd. Rwy'n gobeithio y bydd y gyfrol hon yn ysbrydoli darllenwyr i gynhyrchu dadansoddiadau archaeolegol dychmygus a heriol fydd yn ein gorfodi i adfyfyrio ar y ffordd y caiff cymdeithas ei ffurfio o berthnasoedd rhwng yr hyn sydd, a’r hyn nad yw'n ddynol.

Mae Dr Ben Jervis, sy'n arbenigwr ar archaeoleg Prydain y canol oesoedd a dadansoddi cerameg, yn defnyddio diwylliant materol i ddeall sut roedd pobl yn profi ac yn rheoli newid ac yn benodol sut mae gwreiddiau cymdeithas gyfoes wedi'u plannu yn y cyfnod canoloesol.

Ynghyd ag addysgu, mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ddau brosiect ymchwil: Living Standards and Material Culture in English Rural Households: 1300-1600 gyda'i gyd-ymchwilydd Dr Chris Briggs (Caergrawnt) a Dietary Change and The Norman Conquest gyda Dr Richard Madgwick (Caerdydd) a Dr Elizabeth Craig-Atkins (Sheffield).

Mae astudiaethau Archaeoleg yng Nghaerdydd yn amrywio o BA a BSc Archaeoleg anrhydedd sengl i amrywiaeth eang o raddau Cydanrhydedd ar lefel israddedig hyd at lefel Meistr, MPhil a PhD.

Cyhoeddir Assemblage Thought and Archaeology gan Routledge.

Rhannu’r stori hon