Ewch i’r prif gynnwys

Penodi llawfeddyg arloesol yn ymddiriedolwr corff addysgu newydd

29 Medi 2015

Professor Jonathan Shepherd
Professor Jonathan Shepherd

Mae llawfeddyg arloesol o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd, yn un o 13 o ymddiriedolwyr sydd wedi sefydlu'r Coleg Addysgu newydd

Mae’r Athro Jonathan Shepherd wedi arwain 'chwyldro tawel' i sefydlu cyrff proffesiynol hunan-reoleiddio annibynnol sy'n codi safonau a gwybodaeth.

Mae Jonathan wedi bod yn rhan o greu'r Coleg Addysgu bron o'r cychwyn cyntaf. Roedd ganddo ran hollbwysig yn natblygiad y Coleg Plismona a'r Sefydliad Prawf, y cyrff annibynnol newydd ar gyfer y proffesiynau hyn, ac mae'n dwyn arbenigedd i ddatblygiad y coleg newydd.

Dywedodd yr Athro Shepherd: "Mae fy ngwaith dros y degawd diwethaf wedi canolbwyntio ar rôl cyrff proffesiynol wrth godi safonau ac, yn fwyaf diweddar, bu'n fraint bod yn rhan o'r gwaith o sefydlu'r cyrff annibynnol newydd ar gyfer plismona a'r gwasanaeth prawf. Mae gennym gyfle gyda'r Coleg Addysgu i roi'r gwersi a ddysgwyd o'r broses hon – ac yn wir o ganrifoedd o brofiad gan y Colegau Brenhinol Meddygol – ar waith."

Mae'r Athro Shepherd yn llawfeddyg y genau a'r wyneb, ac ef yw arweinydd Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd. Mae wedi arwain gwaith ymchwil arloesol i newid y ffordd mae Llywodraeth y DU yn gweithio – o blismona, iechyd a gofal cymdeithasol i addysg a heneiddio – fel rhan o Rwydwaith 'What Works' Swyddfa'r Cabinet.

Ef yw'r unig academydd ymhlith 13 o ymddiriedolwyr y Coleg Addysgu. Bydd pum athro dosbarth yn ymuno ag ef, yn ogystal â thri phennaeth a phedwar o weithwyr proffesiynol nad ydynt yn athrawon, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o sefydlu'r coleg ac yn annog athrawon i'w gefnogi.

Mae Times Educational Supplement wedi adrodd am benodiad yr Athro Shepherd.