Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau rhyngwladol i academyddion o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

1 Chwefror 2019

Mike Edmunds yn derbyn Gwobr Ryngwladol Giuseppe Sciacca am Ffiseg
Athro Mike Edmunds yn derbyn Gwobr Ryngwladol Giuseppe Sciacca am Ffiseg.

Mae'r Athro Mike Edmunds a'r Athro Matt Griffin wedi derbyn gwobrau rhyngwladol nodedig am eu gwaith ymchwil.

Derbyniodd yr Athro Emeritws Edmunds Wobr Ryngwladol Giuseppe Sciacca am Ffiseg gan y Gymdeithas Diwylliant a Gwaith Gwirfoddol Ryngwladol mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Archesgobol Urbaniana, Dinas y Fatican, Rhufain ym mis Hydref 2018.

Mae'r wobr hon yn cydnabod pobl sydd wedi gwneud enw iddynt eu hunain mewn amrywiol feysydd gwybodaeth a chelf, ac sydd wedi bod yn enghraifft foesol ac addysgol yn natblygiad cymdeithas.  Cafodd yr Athro Edmunds y wobr i gydnabod ei ymchwil a'i waith ymgysylltu cyhoeddus ar Fecanwaith Antikythera. Darganfuwyd yr arteffact gwerthfawr hwn yn 1900, mewn llongddrylliad ym Môr y Canoldir o'r ganrif gyntaf CC. Roedd ei swyddogaeth a'i weithrediad yn aneglur tan i'r Athro Edmunds a'i gydweithwyr ddangos, gan ddefnyddio technegau delweddu pelydr-x datblygedig, mai dyma'r peiriant cyfrifo seryddol hynaf y gwyddys amdano, dyfais ag iddo soffistigeiddrwydd technegol a mathemategol rhyfeddol, a newidiodd ein dealltwriaeth o elfennau allweddol o ddiwylliant hynafol Groeg.

Dywedodd yr Athro Edmunds: "Rwyf i wrth fy modd gyda'r gydnabyddiaeth hon o arwyddocad gwyddonol a diwylliannol mecanwaith Antikythera, a'r gwaith rwyf i a fy nghydweithwyr wedi'i wneud i ddatgelu ei gyfrinachau."

Derbyniodd yr Athro Griffin o Grŵp Offerwaith Seryddiaeth yr Ysgol radd er anrhydedd (Docteur Honoris Causa) gan yr Université Aix-Marseille ym mis Tachwedd 2018, i gydnabod ei rôl fel Prif Ymchwilydd offeryn Herschel-SPIRE, yn arwain consortiwm rhyngwladol o ddeunaw sefydliad mewn wyth o wledydd. Caiff y radd ei chyflwyno i'r rheini sydd wedi ymgymryd ag ymchwil nodedig mewn cydweithrediad â'r Université Aix-Marseille. Ymhlith y ffisegwyr sydd wedi derbyn anrhydedd Docteur Honoris Causa gan Aix-Marseille yn y gorffennol mae Syr John Pendry a'r Enillydd Gwobr Nobel Saul Perlmutter.

Matt Griffin yn derbyn gradd Docteur Honoris Causa ym Marseille.
Athro Matt Griffin yn derbyn gradd Docteur Honoris Causa ym Marseille.

SPIRE oedd un o dri offeryn gwyddonol a fu'n hedfan ar Arsyllfa Ofodol Herschel Asiantaeth Ofodol Ewrop, oedd yn gweithredu'n hynod o lwyddiannus rhwng 2009 a 2013, gan arsyllu’r Bydysawd ar donfeddi isgoch pell sy'n cael eu rhwystro gan atmosffer y Ddaear.

Mae gan yr Athro Griffin a Grŵp Offerwaith Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd hanes hir o gydweitho gyda'r Laboratoire D’Astrophysique de Marseille (LAM), ar Herschel a phrosiectau gwyddonol eraill. Cynlluniodd gwyddonwyr a pheirianwyr LAM system optegol SPIRE gan adeiladu mecanwaith trachywir ar gyfer sbectromedr yr offeryn.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, pwysleisiodd yr Athro Griffin werth y cydweithio hirsefydlog rhwng grwpiau Caerdydd a Marseille, gan ganmol ansawdd cyfranogiad technegol a gwyddonol peirianwyr a gwyddonwyr Marseille ym mhrosiect SPIRE. Pwysleisiodd ei fod yn ystyried y wobr yn gydnabyddiaeth i ymdrechion a chyflawniad y tîm rhyngwladol mawr iawn oedd yn sicrhau bod Herschel a SPIRE yn bosibl.

Rhannu’r stori hon