Ewch i’r prif gynnwys

Mae heneiddio yn niweidio celloedd ategol yr ymennydd

31 Ionawr 2019

Brain images

Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd, gall heneiddio achosi niwed i’r celloedd ategol yn y gwynnin a allai, yn ei dro, arwain at niwed ym mreithell yr hipocampws.

Mae’r darganfyddiad yn rhoi maes newydd i ymchwilwyr ganolbwyntio arno wrth chwilio am driniaethau sy’n gallu amddiffyn gweithrediad gwybyddol.

Dywedodd Claudia Metzler-Baddeley, o Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’r ymennydd wedi’i ffurfio o wynnin a breithell. Tra bod breithell yn cynnwys celloedd niwronal, sy’n gwneud cyfrifiannau yn ein hymennydd, mae’r breithell yn cynnwys cysylltiadau a chelloedd ategol sy’n helpu’r cyfathrebu rhwng gwahanol rannau.

“Yn ogystal â chadarnhau bod heneiddio yn arwain at ddirywiad breithell yn yr hipocampws a dirywiad gwynnin yn yr ardal gyfagos, mae ein hastudiaeth newydd hefyd yn datgelu’r berthynas achosol rhwng y ddau.

Gan ddefnyddio dull a elwir yn ddadansoddiad cyfryngu, gwnaethom ddarganfod bod heneiddio’r gwynnin yn gyfrifol am heneiddio breithell yr hipocampws, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallai’r niwed i’r celloedd ategol effeithio ar iechyd meinweoedd yn yr hipocampws, rhan sy’n bwysig iawn ar gyfer y cof ac sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer.

Mae hwn yn ddarganfyddiad cyffrous. Os yw celloedd ategol gweithgar tu hwnt y gwynnin yn dechrau camweithredu gydag oedran, gallai’r therapïau sy’n amddiffyn y celloedd ategol hyn helpu i ymladd yn erbyn y niwed y gall heneiddio ei gael ar ein gallu gwybyddol.

Dr Claudia Metzler-Baddeley Reader, NIHR/HCRW Advanced Research Fellow

Cynhaliwyd yr astudiaeth, a edrychodd ar ymennydd 166 o wirfoddolwyr iach, gan ddefnyddio technegau delweddu’r ymennydd o’r radd flaenaf yn CUBRIC a gafodd ei gyd-ariannu gan Gymdeithas Alzheimer ac elusen Alzheimer BRACE.

Mae’r ymchwil ‘Fornix white matter glia damage causes hippocampal gray matter damage during age-dependent limbic decline’ wedi’i chyhoeddi yn Scientific Reports.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn ymgymryd â dulliau ymchwil arloesol wrth ymdrin ac yn ei gymhwyso i gwestiynau seicolegol a chlinigol allweddol.