Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant gweithdy India

30 Ionawr 2019

A group of individuals pose in room
Yr Athro Syntetos a Dr Rostami-Tabar yn dathlu gyda mynychwyr y gweithdy yn India

Mae gweithdy tri diwrnod wedi dod ynghyd ag academyddion ac ymarferwyr ar gyfer hyfforddiant, ymchwil a gosod agendâu ym maes rhagfynegi er lles cymdeithasol yn Sefydliad Rheoli Kozhikode India (IIMK), Kerala.

Yn y digwyddiad, o dan arweiniad Dr Bahman Rostami-Tabar a'r Athro Aris Syntetos o Ysgol Busnes Caerdydd, cymerodd mynychwyr ran mewn gweithdy rhyngweithiol yn rhanbarth fwyaf deheuol India.

Roedd y tri diwrnod a ariannwyd gan Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-Eang (GCRF) ac a hyrwyddwyd gan Wudi, busnes technoleg gymdeithasol sydd newydd gychwyn, yn galluogi'r mynychwyr i adnabod cyfleoedd ar gyfer defnyddio rhagfynegi i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau mewn mudiadau sydd â chenadaethau cymdeithasol ledled India.

Ar ôl proses ymgeisio gystadleuol, lle derbyniwyd 80 o geisiadau, dewiswyd 27 o fynychwyr o sectorau a oedd yn cynnwys: trychinebau ac adfer, addysg, y llywodraeth, gofal iechyd, sefydliadau anllywodraethol a gwasanaethau cymdeithasol.

Man leads group discussion
Yr Athro Syntetos yn llywio'r mynychwyr drwy ddiwrnod cyntaf y gweithdy

Arweiniodd yr Athro Syntetos y diwrnod cyntaf a dangos pwysigrwydd rhagfynegi fel cymorth i gynllunio ac i wneud penderfyniadau. Dangosodd dechnegau rhagfynegi syml i'r mynychwyr a phwysleisio pwysigrwydd gwerthuso ar gyfer cywirdeb a goblygiadau eraill a ysgogwyd gan y broses.

Ar yr ail ddiwrnod traddododd tri siaradwr arbenigol ddarlithoedd fideo i'r mynychwyr. Clywon nhw gan:

Roedd y cyflwyniadau'n cynnig elfen ryngweithiol lle clywodd y cyfranogwyr yn uniongyrchol am ddefnyddio rhagfynegi er lles cymdeithasol ledled y llywodraeth, maes gofal iechyd a mudiadau cynorthwyo.

Man delivers presentation to group
Dr Rostami-Tabar yn cyflwyno dosbarth meistr ar feddalwedd R

Arweiniodd Dr Rostami-Tabar y diwrnod olaf a oedd yn canolbwyntio ar ragfynegi gan ddefnyddio meddalwedd R. Aeth drwy  broses gyfan y dasg ragfynegi gan ddefnyddio set data go iawn o'r sector iechyd.

Er mwyn rhoi'r damcaniaethau ar waith, defnyddiodd y mynychwyr R i baratoi, i drafod ac i ddelweddu data ac yna buon nhw'n cymhwyso dulliau rhagfynegi ac yn cymharu pa mor gywir oedden nhw.

Yn dilyn llwyddiant y gweithdy, mae Dr Rostami-Tabar a'r Athro Syntetos yn bwriadu trefnu rhagor o weithdai ym maes lles cymdeithasol yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon

A joint industry-University initiative that aims to achieve high quality research with impact in the fields of logistics and manufacturing management.