Ewch i’r prif gynnwys

Creu tonnau

8 Ionawr 2019

Aerial image of waves coalescing

Mae defnyddio niwro-adborth i wella sgiliau arweinyddiaeth yn cyflawni canlyniadau oherwydd plasebo yn hytrach na’r dechnoleg, yn ôl tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Bu’r Athro Dirk Lindebaum, Dr Ismael Al-Amoudi a Virginia Brown o Ysgol Fusnes Caerdydd yn adolygu astudiaethau niwrowyddonol presennnol, a chanfod bod ymarferwyr niwro-adborth yn codi symiau anferth am driniaeth sydd wedi’i seilio ar ganlyniadau seicolegol yn hytrach nag ymyrraeth dechnolegol.

Mae niwro-adborth, sy’n fath o fio-adborth, yn defnyddio electroencephalograffeg (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd, neu donnau’r ymennydd, trwy roi electrodau ar groen y pen.

Ateb cyflym

Mae darparwyr yn honni eu bod wedi canfod patrymau tonnau ymennydd arweinyddion sy’n ysbrydoli a’u bod, trwy ddefnyddio niwro-adborth, yn helpu cleientiaid i newid eu tonnau ymennydd i gyfateb i’r rheiny.

“Mewn amgylcheddau busnes sydd wedi dod yn fwy cymhleth ac sy’n symud yn gyflymach, mae rheolwyr yn aml yn awyddus i gael hyd i atebion cyflym. Ond rydym ni wedi darganfod bod gagendor rhwng yr hyn mae’r wyddoniaeth yn ei hawgrymu a honiadau darparwyr ynghylch gwella sgiliau arweinyddiaeth.”

Dirk Lindebaum Professor in Management and Organisation

Gall darpar arweinyddion fwynhau encil dwys o hyfforddiant i’r ymennydd am ryw £12,000, tra bod rhai’n disgwyl i’r farchnad ‘ffitrwydd yr ymennydd’ dyfu i £4.5 biliwn erbyn 2020.

Effaith y plasebo

Ychwanegodd yr Athro Lindebaum: “Mae cryn ddiddordeb masnachol yn y maes, ac weithiau mae’r diddordeb masnachol ymhellach ar y blaen i’r dystiolaeth wyddonol.  Maen nhw’n ennill arian trwy honni eu bod yn defnyddio technoleg soffistigedig y mae’r dystiolaeth yn awgrymu ei bod yn gweithio’n bennaf trwy effeithiau seicolegol - effaith y plasebo.”

Yr ymgais hon i fanteisio’n ariannol ar y canlyniadau, y mae niwrowyddonwyr yn awgrymu eu bod yn deillio o’r plasebo yn bennaf, sy’n peri trafferth i’r tîm yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n awgrymu y gallai sicrhau bod mas critigol o ddarpar gleientiaid yn dod i gysylltiad â thystiolaeth wyddonol, o’r ymchwil niwrowyddoniaeth ddiweddaraf, ynghylch ei haneffeithiolrwydd arwain at ddiflaniad effaith plasebo niwro-adborth.

Rhybuddiodd yr Athro Lindebaum: “Peidiwch â chael eich denu gan y dechnoleg.  Mae ffyrdd o sicrhau canlyniadau sy’n rhatach na niwro-adborth, ac wedi’u seilio ar well gwyddoniaeth.”

Cyhoeddir yr astudiaeth ‘Does leadership development need to care about neuro-ethics?’ yn yr Academy of Management Learning and Education.

Mae hefyd wedi cael ei chyfieithu ar gyfer ymarferwyr rheolaeth ar lwyfan ‘Insights’ yr Academi Reolaeth, sydd newydd ei lansio.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.