Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad canolfan newydd ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys

25 Medi 2015

Minister for Health and Social Services, Mark Drakeford
Minister for Health and Social Services, Mark Drakeford

Arbenigwyr yn ymgynnull i ddathlu lansiad Canolfan PRIME Cymru

Wnaeth ymchwilwyr arbenigol, clinigwyr, staff y GIG, cleifion a gofalwyr ymgasglu neithiwr i ddathlu lansiad Canolfan PRIME Cymru o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Mae'r ganolfan ymchwil newydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt, drwy gynnal gwaith ymchwil o ansawdd uchel ar bynciau sy'n cael blaenoriaeth mewn polisïau cenedlaethol ym meysydd gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu.

Prifysgol Caerdydd sy'n arwain Canolfan PRIME Cymru, ochr yn ochr â phrifysgolion partner Bangor, Abertawe a De Cymru, gyda £2.7M o arian nawdd yn cael ei ddyfarnu dros dair blynedd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae'r siaradwyr gwadd eraill yn y cyfarfod yn cynnwys yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru; yr Athro Niro Siriwardena, Athro Gofal Iechyd Sylfaenol a chyn mynd i'r ysbyty, Prifysgol Lincoln; Mr Simon Denegri, Cyfarwyddwr Cenedlaethol NIHR ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd mewn Ymchwil a Chadeirydd INVOLVE; Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru; a Dr Fiona Godlee, Prif Olygydd, BMJ.

Mae gwaith ymchwil ym maes meddygaeth sylfaneol, brys a heb ei drefnu yn hanfodol, gan fod 90% o gysylltiad pobl â'r GIG yn digwydd yn y gymuned, yn hytrach nag yn yr ysbyty. Mae'r boblogaeth yn heneiddio, felly mae nifer y bobl sydd â phroblemau iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cynyddu. Mae gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu dibynadwy yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth iechyd effeithiol ac effeithlon.

Gofal sylfaenol sydd bellach yn rheoli cyflyrau hirdymor fel diabetes, asthma, COPD, epilepsi a chlefyd y galon, yn hytrach nag ysbytai. Rheolir adsefydlu a hyrwyddo hunan-reoli fwyfwy yn y gymuned hefyd. Mae'r defnydd priodol o wasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal brys, ac ymateb y gwasanaethau hyn, yn hollbwysig ar gyfer darparu gofal brys amserol o ansawdd uchel, yn ogystal â gwasanaethau gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol effeithlon.

Bydd y ganolfan yn adeiladu ar feysydd presennol o ragoriaeth wyddonol yng Nghymru gyda themâu ymchwil craidd sy'n canolbwyntio ar gyflyrau hirdymor, gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf a gofal iechyd darbodus, heintiau ac ymwrthiant i wrthfiotigau, gofal brys a gofal heb ei drefnu (gan gynnwys gofal cyn mynd i'r ysbyty), diogelwch cleifion a gwelliannau i ofal iechyd, yn ogystal ag atal, sgrinio a diagnosis cynnar.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: 

"Dyma ddatblygiad cyffrous, ac ar y cyd ag ymchwil iechyd arall o safon uchel a gaiff ei chynnal ledled Cymru, bydd yn helpu ein GIG i fynd i'r afael â heriau presennol ac yn y dyfodol. Bydd Canolfan PRIME Cymru yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ac yn trosi ei chanfyddiadau yn arfer da sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau rhagorol i gleifion."

Yn ôl yr Athro Adrian Edwards o'r Ysgol Meddygaeth, a Chyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru:

"Dyma gyfle gwych i wneud y gwaith ymchwil sydd wir ei angen yn y meysydd hanfodol hyn yn y GIG, gan weithio gyda chleifion a'r cyhoedd, ac ar eu cyfer. Ar adeg pan mae'r GIG yn wynebu sawl her o bwys, a phoblogaeth sy'n heneiddio gan arwain at anghenion fwyfwy cymhleth o ran iechyd a gofal, mae gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal brys effeithiol ac o ansawdd da, sy'n canolbwyntio ar y claf, yn gwbl hanfodol er mwyn i'r GIG yn gyffredinol ddarparu'r gofal iechyd y mae ar gleifion ei angen a'i eisiau."

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhith-sefydliad cenedlaethol, amlweddog, a ariennir ac a oruchwylir gan Lywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon